Neidio i'r prif gynnwy
Rani Dash

Director of Corporate Governance

Amdanaf i

Director of Corporate Governance

Bu Rani yn Ysgrifennydd y Bwrdd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys am 3 blynedd cyn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Datblygodd Rani ei gyrfa llywodraethu ym Mhowys, gan weithio mewn nifer o uwch rolau o fewn y portffolio gwasanaethau corfforaethol, gan gwnnwys llywodraethu bwrdd, rheoli risg, sicrwydd a rheoli polisi yn ogystal â darparu cymorth rheoli busnes ar lefel uwch i’r Prif Weithredwr yn yr arweinyddiaeth, rheolaeth a chyflawni busnes dydd i ddydd y Bwrdd Iechyd.

Mae gan Rani brofiad o weithredu systemau a phrosesau llywodraethu cryf ac mae wedi datblygu systemau a phrosesau rheoli risg i sicrhau bod fframweithiau yn eu lle i gyflawni cydymffurfiaeth reoleiddiol.

Fel Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae Rani yn cefnogi'r Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol i ddatblygu systemau, prosesau a diwylliant llywodraethu corfforaethol cryf, effeithlon ac effeithiol.