Neidio i'r prif gynnwy
Shelley Bosson

Aelod Annibynnol (Cymuned)

Amdanaf i

Aelod Annibynnol (Cymuned)

Mae Shelley yn gyn Prif Weithredwr ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a'i ragflaenydd, Awdurdod Heddlu Gwent. Mae gan Shelley brofiad helaeth mewn strategaeth a pherfformiad, ymgysylltu ac ymgynghori, gweithio mewn partneriaeth, cydweithredu a chomisiynu ynghyd â chyllid a chraffu. Yn ogystal, fel cyfreithiwr mae hi'n dod â'i harbenigedd cyfreithiol i'r Bwrdd.

 

Cyn hyn, bu Shelley yn gweithio mewn practis preifat yng Ngwwent gan arbenigo mewn cyfraith teulu a phrofiant cyn symud i Gyngor Sir Gwent ym 1988. Daliodd Shelley nifer o swyddi yn y Cyngor Sir yn ymdrin â phob agwedd ar gyfraith gyhoeddus gan arwain at swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol. yn ymwneud â Chynllunio, Priffyrdd, Datblygiad Economaidd a Thendro Cystadleuol Gorfodol.

Ar adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1995, symudodd Shelley i awdurdod unedol newydd Blaenau Gwent, lle bu ganddi amryw o swyddi ac yn ddiweddarach bu’n bennaeth ar yr Adran Polisi a Pherfformiad, nes iddi symud i sector yr heddlu yn 2009.

 

Llwyddodd Shelley i reoli'r trosglwyddiad i rôl newydd y Comisiynydd yn 2012. Fe wnaeth wella gwaith partneriaeth yn sylweddol, nid yn unig gan sefydlu cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y pum awdurdod unedol sy'n rhan o ardal yr heddlu, ond gan wneud hynny ynghyd â phartneriaid cyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol eraill. Hi oedd y Prif Weithredwr arweiniol wrth ddatblygu gweithio rhanbarthol rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru.

 

Cafodd Shelley ei geni a'i magu yn ardal BIPAB gan dreulio ei holl yrfa broffesiynol yn yr ardal. Mae Shelley yn briod gyda dwy ferch, yn mwynhau cerdded, nofio a Pilates ac mae'n ddarllenwr brwd.