Neidio i'r prif gynnwy

Eich Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne Ddwyrain Cymru

Beth yw Gwasanaethau Fasgwlaidd?

Y system fasgwlaidd yw’r rhwydwaith cydgysylltiedig o bibellau gwaed (gwythiennau a rhydwelïau) sy’n cysylltu â’r galon a’r ysgyfaint ac yn darparu ocsigen a maethynnau i holl organau a meinweoedd y corff. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn helpu i gynghori a thrin pobl pan fydd angen archwilio neu drin eu system fasgwlaidd, yn ogystal â darparu cyngor ar gynnal iechyd fasgwlaidd da.

 

Mae Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru bellach yn cael eu trefnu fel model prif ganolfan a lloerennau.

Mae’r model gofal newydd hwn wedi’i roi ar waith gan Rwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru i sicrhau bod y broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel yn cael ei chynnal ar gyfer y dyfodol.

Mae’r trawsnewid yn cynnwys partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Nod Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yw gwella canlyniadau cleifion, a darparu gwasanaethau fasgwlaidd cydlynol i boblogaeth ar draws ardal ddaearyddol eang sy’n cynnwys nifer o ysbytai gwahanol.

 

Sut olwg sydd ar y model gofal hwn?

Ysbyty Prif Ganolfan

Mae’r brif ganolfan yn derbyn yr holl argyfyngau fasgwlaidd sy’n gofyn am ymyrraeth fasgwlaidd neu endofasgwlaidd, ynghyd â gofal brys yr holl gleifion mewnol fasgwlaidd.  Mae ganddi welyau penodedig ar gyfer cleifion mewnol fasgwlaidd mewn ward sydd wedi’i staffio gan nyrsys sydd â diddordeb mewn llawdriniaeth fasgwlaidd.

Ysbyty Athrofaol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw’r ysbyty prif ganolfan. Fe'i dewiswyd oherwydd yr amrywiaeth o wasanaethau acíwt sydd eisoes wedi'u sefydlu ar y safle fel darparwr arbenigol trawma mawr, cardioleg ymyriadol a llawdriniaeth gardio-thorasig. Oherwydd y cysylltiadau rhwng y gwasanaethau hyn a’r gwasanaeth fasgwlaidd, dyma’r opsiwn a ffafriwyd ar gyfer y brif ganolfan gan uwch feddygon o’r holl Fyrddau Iechyd dan sylw. 


Ysbyty Lloeren

Wrth i gleifion ddechrau eu taith adfer ac adsefydlu, bydd eu gofal yn cael ei ddarparu mewn lleoliad ysbyty a chymunedol a fydd mor agos at eu cartref â phosibl.

O ystyried yr angen am Adran Damweiniau ac Achosion Brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaeth llawdriniaeth gyffredinol frys, mae’r ysbytai lloeren ar gyfer pob ardal Bwrdd Iechyd fel a ganlyn:

  • Ysbyty Athrofaol y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Ysbyty Athrofaol Cymru (Adain Glan-y-Llyn), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwch fod cynlluniau yn eu lle i ysbyty lloeren Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddod yn Ysbyty Athrofaol Llandochau

 

Beth yw'r manteision i gleifion?

Mae cael gwasanaethau llawfeddygol fasgwlaidd mewn prif ganolfan gydag ysbytai lloeren ategol yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.

Credwn y bydd model rhwydwaith prif ganolfan a lloerennau ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd yn fwy gwydn a hyblyg ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i wneud y canlynol:

  • parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel, diogel ac effeithiol
  • denu staff arbenigol iawn a meithrin talent
  • gwneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy a chadarn
  • adeiladu mwy o wytnwch yn ein gweithlu
  • meithrin dull mwy cydweithredol o weithio sy’n gwella canlyniadau

 

Siaradwch â'n tîm os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.