Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r Ddeddf Galluedd Meddyliol

Mae llywodraeth y DU a Chymru yn ceisio barn ar god ymarfer diwygiedig ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae hyn yn cynnwys manylion fframwaith cyfreithiol newydd o’r enw Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) a fydd yn disodli’r fframwaith presennol o’r enw Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLs). 

Bydd y newid yma’n effeithio’n benodol ar bobl sy’n bodloni’r meini prawf canlynol i gyd, yn ogystal â’r bobl sy’n eu cefnogi:

  • Y rheiny sy’n 16+ oed
  • Yn disgwyl neu’n derbyn gofal neu driniaeth,
  • Sy’n brin o alluedd i gydsynio i’r gofal neu driniaeth hynny
  • Ble mae’r gofal neu driniaeth hynny’n amddifadu rhyddid neu gallai fod yn gwneud hynny

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys newidiadau i’r ffordd mae gofal neu driniaeth yn cael eu hawdurdodi i bobl sy’n brin o’r galluedd i gydsynio, gan gynnwys y rheiny sydd dros 16 oed a chleifion mewn lleoliadau iechyd neu gymunedol, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, neu yn eu cartrefi eu hunain.

Enw’r drefn newydd fydd y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ac mae Llywodraethau’r DU a Chymru’n ymgynghori ynglŷn â sut y byddant yn cael eu gweithredu.

Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n ceisio grymuso a diogelu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.  Mae’n ceisio gosod eu hawliau dynol wrth galon penderfyniadau, felly mae o’r pwys mwyaf bod unrhyw un a allai gael eu heffeithio gan y newid yma, neu eu teuluoedd, yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Gellir gweld yr ymgynghoriad trwy glicio ar y dolenni isod. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn cydweithrediad â'i bartneriaid Awdurdod Lleol hefyd yn cynnal sesiynau briffio a gweithdai ar-lein . Ymunwch â ni arlein i ddeall yr hyn sy’n newid a sut y gall fod yn berthnasol i chi a’r ffrind/anwyliaid rydych yn gofalu amdanynt.