Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltiad 12 Wythnos Gwasanaethau Mamolaeth

Cefndir

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am yr holl wasanaethau iechyd a ddarperir trwy hen sir Gwent (yn cynnwys ardaloedd awdurdod lleol Casnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent), yn ogystal â rhywfaint o boblogaeth de Powys. Mae’r model gofal dan arweiniad bydwragedd o fewn y Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar gynorthwyo menywod, y rhai sy’n rhoi genedigaeth, a’u teuluoedd trwy ddarparu gofal caredig a thosturiol, gan ddefnyddio tystiolaeth o ansawdd i lywio penderfyniadau. Y bwriad yw sicrhau profiadau cadarnhaol mewn perthynas â beichiogrwydd a geni plant – profiadau a fydd yn hybu llesiant ac yn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i fabanod.

Mae gan wasanaethau mamolaeth ddyletswydd gofal i sicrhau bod y ddarpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau dan arweiniad bydwragedd yn ddigonol, fel y gellir diwallu’r galw ym mhob ardal. Mae dewis yn hanfodol i ofal mamolaeth a dylai pob menyw allu gwneud dewisiadau ynglŷn â’r lleoliad y bwriadant roi genedigaeth.

Mae’r canlynol wedi’u cynhyrchu i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau mamolaeth dan arweiniad bydwragedd yn y Bwrdd Iechyd, i roi gwybod am faterion diweddar a brofwyd gan y gwasanaeth ac i nodi cynigion ar gyfer sut y gellid darparu’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Mae’n bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn gwasanaethau mamolaeth yn cael cyfle i ddeall y cynigion ac i roi eu barn i ni.

Er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu ystyried y cynnig hwn, mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda Llais (Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan gynt) ac mae cyfnod o 12 wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd wedi'i drefnu, rhwng Dydd Mawrth 9 Mai a Dydd Gwener 28 Gorffennaf 2023.

 

Mae’r cyfnod ymgysylltu hwn bellach wedi gorffen.

 

 

Sut y gall pobl leisio’u barn?

Gellir rhannu barn trwy gyfrwng y dulliau canlynol:-


Arolwg:

Cwblhewch ein harolwg y gellir rhannu barn trwy gyfrwng y dulliau canlynol:-

 

Cod URL: https://forms.office.com/e/RNT1QWwkjq

Efallai yr hoffech ei sganio hefyd, neu dynnu llun o ansawdd da a’i e-bostio atom yn: ABB_BABI@wales.nhs.uk

 

Sesiynau Ymgysylltu â’r Cyhoedd/ Gwybodaeth:

Gellir fynychu un o’n sesiynau ymgysylltu/ gwybodaeth cyhoeddus, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynigion a gofyn cwestiynau i’r Bwrdd Iechyd / staff mamolaeth. Mae’r sesiynau hyn wedi’u trefnu fel a ganlyn:-

 

Dydd Llun 15fed Mai

16:00 – 18:00

Canolfan Geni

Ysbyty Nevill Hall

Y Fenni

Dydd Mercher 17eg Mai

16:00 – 18:00

Canolfan Geni

Ysbyty Brenhinol Gwent

Casnewydd

Dydd Gwener 19eg Mai

12:00 canol dydd – 14:00

Canolfan Geni

Ysbyty Ystrad Fawr

Ystrad Mynach

Dydd Llun 22 Mai

14:00pm – 16:00

Canolfan Geni

Ysbyty Brenhinol Gwent

Casnewydd

Dydd Mawrth 30ain Mai

14:00pm – 16:00

Canolfan Geni

Ysbyty Aneurin Bevan

Glyn Ebwy

Dydd Gwener 9 Mehefin

10:00 – 12:00 canol dydd

Canolfan Geni

Ysbyty Nevill Hall

Y Fenni

 

Cysylltwch â Ni

Trwy e-bost gan nodi unrhyw sylwadau yn ABB_BABI@wales.nhs.uk

Dros y ffôn ar 01633 238874 (gadewch neges er mwyn i rywun allu cysylltu â chi)

Cyfrannu at unrhyw sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng tudalen Gwasanaethau Mamolaeth y Bwrdd Iechyd ar Facebook