Neidio i'r prif gynnwy

Dos Atgyfnerthu'r Gwanwyn 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn dechrau ar 1 Ebrill ar gyfer y rhai mwyaf bregus yn ein plith, gan gynnwys i bobl dros 75 oed.

Gan lynu wrth gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu arbenigol, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • oedolion 75 oed a hŷn
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, ac
  • unigolion 5 oed a throsodd sy’n imiwnoataledig

Byddwn yn dechrau rhoi brechlynnau i bobl ar 1 Ebrill gan ddechrau efo’r rhai mwyaf bregus yn ein cartrefi gofal ar draws Gwent. Yna, byddwn yn cysylltu â gweddill y rheini sy’n gymwys tuag at ganol mis Ebrill. Diolch am eich amynedd yn y cyfnod hwn.