Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Swyddogol

Am y wybodaeth diweddaraf ar ein Canolfannau Profi Coronafeirws (Covid-19), ewch i'n tudalen Canolfannau Profi.

Am y wybodaeth diweddaraf ar Coronafeirws (Covid-19) gan Lywodraeth Cymru, ewch i'w gwefan

Ymweld ag Ysbytai


Dydd Mercher 13 Ionawr 2020

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd gennym ni Teleffonwyr ym mhob un o'n prif safleoedd ysbytai o heddiw ymlaen, 13 Ionawr 2021, a fydd yn bwynt cyswllt i alwyr sy'n ymholi am ddiweddariadau ar berthnasau.

Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau sylweddol y mae'r cyhoedd yn eu hwynebu wrth geisio cysylltu â'n wardiau yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Ymddiheurwn yn ddiffuant am y gofid y mae hyn yn ei achosi. Hoffem eich sicrhau ein bod yn recriwtio staff ychwanegol i gefnogi’r wardiau. Wrth i ni recriwtio, rydym wedi sicrhau cymorth teleffoni ychwanegol ym mhob un o'n prif safleoedd ysbyty, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd y Teleffonwyr yn gweithredu fel cyswllt rhwng galwyr a'r wardiau. Os gall y Teleffonydd ateb eich ymholiad yn y fan a’r lle, byddant yn gwneud hynny. Er na fyddant yn gallu trafod gwybodaeth glinigol, byddant yn gallu trosglwyddo negeseuon i'r wardiau a rhoi gwybod i alwyr pryd y bydd y ward yn ffonio galwyr yn ôl.

Gweler isod y rhifau i ffonio’r ysbyty lle mae'r ward wedi'i lleoli. Wrth holi am eich perthynas neu ffrind, parhewch i ffonio’r ward yn gyntaf. Os na lwyddwch i gysylltu â’r ward, gallwch ffonio’r llinellau pwrpasol hyn rhwng 8yb-10yb12 ganol dydd-2yp a 4yp-6yp.

SYLWER: Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 13 Ionawr 2021 am gyfnod o 3 mis (yn unig).


Dydd Mercher 23 Rhagfyr 2020

Newidiadau i'r canllawiau Gwarchod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru

Oeddech chi'n gwarchod eich hun o'r blaen?

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ein cyngor. Ni ddylech fynychu gwaith neu ysgol y tu allan i'r cartref mwyach. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gysylltiad agos rheolaidd â phobl eraill neu os ydych yn rhannu gweithle sydd wedi'i awyru'n wael am gyfnodau hir.

Mae hyn yn dilyn cynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio, o bosibl oherwydd amrywiolyn newydd y coronafeirws.

Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at bawb a oedd gynt yn gwarchod eu hunain i gadarnhau'r cyngor hwn.

Gweler fwy o wybodaeth ar wefan Lywodraeth Cymru.


Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2020

O Ddydd Llun 14 Rhagfyr, byddwn yn gwneud newidiadau i rai o'n gwasanaethau. Nid ar chwarae bach y bu i ni wneud y penderfyniad hwn, fodd bynnag o ganlyniad i drosglwyddiad cynyddol Covid-19 o fewn ein cymunedau, ar y cyd â galw arferol y gaeaf ar ein gofal brys, mae'n cael effaith fawr ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau arferol.

Byddwn yn gwneud y newidiadau canlynol i'n gwasanaethau:

• Bydd yr holl glinigau nad ydynt yn frys yn cael eu gohirio - bydd cleifion gwasanaethau canser a'r rheiny y mae angen gofal clinigol brys arnynt yn parhau i gael eu gweld.

• Bydd yr holl driniaethau wedi'u cynllunio nad ydynt yn frys yn cael eu gohirio - bydd triniaethau ar gyfer cleifion canser a'r rheiny y mae angen gofal clinigol brys arnynt yn parhau. Byddwn yn gweithio i sicrhau y rhyddheir cleifion sy'n ffit yn feddygol, nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach, yn gyflym ar ôl asesiad risg.

• Bydd gwasanaethau endosgopi a radioleg (pelydr-x) yn parhau'r un fath ac ni fydd triniaethau ar gyfer cyflyrau ar y galon yn cael eu gohirio. Bydd ein rhaglen frechu Covid-19 yn cael ei blaenoriaethu hefyd.

• Ni effeithir ar ein gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion gan y newidiadau hyn

Byddwn yn parhau i'ch annog i #DewisYnDdoeth ac yn y lle cyntaf ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111.

Os oes angen cymorth pellach arnoch, ffoniwch 111 neu cysylltwch â'ch Meddyg Teulu neu Fferyllydd Cymunedol. Os oes gennych unrhyw symptomau sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999.

Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth barhaus.


Dydd Gwener 11 Medi 2020

Gofyniad am Orchuddion Wyneb ym mhob Safle'r Bwrdd Iechyd

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion COVID-19 cadarnhaol yn y gymuned, mae ymchwiliadau wedi nodi bod diffyg Ymbellhau Cymdeithasol ym mhob grŵp oedran, mewn ystod o wahanol leoliadau, wedi cyfrannu at ledaeniad y firws.

Mae'r cynnydd hwn mewn achosion cadarnhaol yng Nghaerffili a nawr yng Nghasnewydd yn dangos nad yw Coronafeirws wedi diflannu. Mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb pawb i helpu i atal lledaeniad y feirws hwn, ac o ganlyniad, o Ddydd Gwener 11eg Medi 2020, mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflwyno'r mesurau ychwanegol canlynol i leihau'r risg ac i ddiogelu ein staff, cleifion ac ein cymunedau:

  • Rhaid i bawb ym mhob ardal sy'n wynebu cleifion a'r cyhoedd yn y Bwrdd Iechyd wisgo gorchuddion wynebau. Bydd y rhain ar gael wrth fynedfa ein hysbytai, gan ddarparu glanweithydd dwylo cyn gwisgo'r gorchudd wyneb.
  • Wrth adael adeilad y Bwrdd Iechyd, defnyddiwch y ddiheintydd dwylo cyn tynnu'r gorchudd wyneb a'i roi yn ddiogel mewn bin.
  • Caiff cleifion eu hasesu ar risg yn unigol a byddant yn cael eu cynghori yn unol â hynny.
  • Disgwylir i gleifion sy'n mynychu apwyntiadau cleifion allanol ac eraill wisgo gorchudd wyneb. Ni fydd yn ofynnol i blant dan 11 oed, neu'r rheini ag eithriadau meddygol, wisgo gorchudd wyneb.

Mesurau Atal Heintiau Eraill sy'n allweddol wrth leihau'r risg o drosglwyddo yw:

  • Dadheintio dwylo (golchi dwylo/ diheintydd dwylo)
  • Glanhau ardaloedd a gyffyrddir yn aml yn rheolaidd
  • Pellter cymdeithasol o leiaf 2 fetr
  • Aros adref os oes gennych symptomau COVID-19
  • Arhoswch gartref am 14 diwrnod os oes gan aelod o'ch cartref symptomau neu broawf cadarnhaol o Covid-19, neu os yw aelod o'n tîmau Olrhain Cyswllt yn gofyn i chi wneud hynny.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i bawb gymryd rhan yn y mesurau uchod i amddiffyn ein cleifion, staff y Bwrdd Iechyd a'n cymunedau.


Polisi 'Dim Ymweld' i'w Ymestyn i Ardal Gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Er mwyn amddiffyn ein cleifion, y cyhoedd a'n staff, mae'r Bwrdd Iechyd wedi barnu ei bod yn hanfodol cymeradwyo polisi 'Dim Ymweld', sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer Bwrdeistref Sir Caerffili oherwydd y cyfnod clo lleol.

Fodd bynnag, gydag achosion cadarnhaol hefyd yn codi mewn meysydd eraill, bydd y Polisi 'Dim Ymweld' hwn yn cael ei ymestyn i'n holl wardiau ac ardaloedd cleifion ardraws y Bwrdd Iechyd (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen). Mae ymestyn y trefniadau 'Dim Ymweld' yn dod i rym o 9:00yb ar Ddydd Gwener 11 eg Medi 2020.

Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cyswllt rhwng cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ond mae'n rhaid i ni gymryd mesurau i atal yr haint hwn rhag lledaenu.

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn llwyr werthfawrogi bod hyn yn anhygoel o anodd, ond hoffem eich sicrhau y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson, bydd yr eithriadau canlynol yn berthnasol:

Dylid caniatáu ymweld ar gyfer:

  • Merched ar fin rhoi genedigaeth (partner geni, o'u cartref)
  • Rhiant neu warcheidwad enwebedig ar gyfer plentyn yn yr Ysbyty ac ar gyfer babanod newydd-anedig
  • Rhywun â mater iechyd meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle fydd dim fod yn bresennol yn achosi trallod i'r claf/ defnyddiwr gwasanaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu gan Rheolwr y Ward a bydd opsiynau ymweld yn cael eu sicrhau ymlaen llaw.
  • Cleifion ar Ofal Diwedd Oes. Sicrheir caniatâd i ymweld ymlaen llaw (lle bo hynny'n bosibl), un ymwelydd ar y tro fydd hwn am swm penodol fel y cytunwyd gyda Rheolwr y Ward.

Diolch i chi am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth yn ystod yr amseroedd anodd iawn hyn.


Dydd Mawrth 28ain Ebrill 2020

Mae'r cyngor hwn ar gyfer wardiau cyffredinol ac nid yw'n cynnwys ardaloedd lle mae cleifion yn derbyn gofal a thriniaeth ddwys. 

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr ei bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o deuluoedd sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty, ac mae'r polisi 'Dim Ymwelwyr' wedi'i gyflwyno yn unol â'r 'lockdown' rhannol gan y Llywodraeth. Mae wedi bod yn hanfodol i ni roi mesurau ar waith i ddiogelu cleifion, teuluoedd, staff a'r cyhoedd drwy leihau traffig yn ein hysbytai a lleihau'r risg o groeshalogi.

Mae'r cyfyngiadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson yn lleol ac yn genedlaethol ac, ar unwaith, mae'r eithriadau canlynol nawr ar waith.

Dylid caniatáu ymweliadau ar gyfer:

  • menywod yn rhoi genedigaeth (partner geni, o'u haelwyd)
  • rhiant neu warcheidwad enwebedig i blentyn yn yr ysbyty ac i fabanod newyddanedig
  • rhywun â phroblem iechyd meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle byddai peidio â bod yn bresennol yn achosi trallod i'r claf/defnyddiwr gwasanaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu gan y Prif Nyrsys Ward a'r opsiynau ymweld wedi'u sicrhau ymlaen llaw.
  • Cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes. Bydd caniatâd i ymweld yn cael ei sicrhau o flaen llaw (lle bo hynny'n bosibl), un ymwelydd ar y tro a fydd hwn am gyfnod penodedig fel y cytunwyd gan y Prif Nyrs Ward.

Rydym yn cydnabod bod ymweld â'r teulu, ar gyfer y cleifion uchod, yn hanfodol bwysig, ac rydym wedi ceisio cydbwyso hyn yn ofalus â'r risg o lledaeniad yr haint.

Mewn wardiau cyffredinol, bydd ein staff yn siarad â chi am drefniadau ar gyfer ymweld ar yr adeg anodd hon ac yn ceisio eich cefnogi'n llawn wrth gadw mewn cysylltiad â'ch anwyliaid.

Sylwch, nid yw bob amser yn bosibl rhagfynegi pan fydd rhywun yn y dyddiau/oriau olaf o'u bywyd, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i gysylltu â chi os ydym yn teimlo bod hyn yn wir ar gyfer eich anwyliaid.

Bydd trafodaeth gyda'r Prif Nyrsys Ward yn cael ei chynnal i gytuno ar amserlen ymweld. Bydd ymwelydd enwebedig sy'n iach (Iach = heb fod â symptomau Covid–19) yn cael cymorth llawn i ddefnyddio offer diogelu personol, lle bo angen. Bydd yr ymwelydd enwebedig, sy'n rhydd o arwyddion neu symptomau Covid-19, yn cael trafodaeth gyda'r Prif Nyrsys Ward a bydd hyn yn cynnwys: y cwestiynau sgrinio Covid-19 a thynnu sylw at y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer grwpiau risg uchel sy'n ymwneud ag Ynysu Cymdeithasol. Os yw'r darpar ymwelydd yn nodi ei fod yn rhydd o arwyddion a symptomau Covid-19 ac yn ymwybodol o'r risg bosibl sy'n gysylltiedig ag ymweld, yna dylid caniatáu iddynt ymweld. Dylid cofnodi'r sgwrs hon yng nghofnodion iechyd y cleifion.


Dydd Sul 26ain Ebrill 2020

Apêl am CDs sbâr ar gyfer cleifion ar Wardiau ein Hysbytai

A ydych wedi defnyddio'r amser ychwanegol yn y tŷ i glirio rhai o'r cypyrddau, ac wedi dod o hyd i hen CDs nad oes angen arnoch mwyach?

Os felly, byddem wrth ein boddau i dderbyn rhain i wneud defnydd da ohonynt.

Er mwyn i'n cleifion allu mwynhau rhywfaint o therapi cerddorol sy'n hybu hwyliau, rydym yn darparu chwaraewyr CD ar ein Wardiau, ond mae angen rhai albymau i'w chwarae ynddynt.

Os oes gennych unrhyw CDs sbâr y credwch hoffai'n cleifion gwrando arnynt, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi gwybod i ni drwy: ffrindimi.abb@wales.nhs.uk

Mae yna ychydig o enghreifftiau o fathau o gerddoriaeth ac artistiaid isod, ond byddwn yn croesawi albymau â chymysgedd o artistiaid hefyd.

Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus ac am aros adref!


Dydd Mawrth 14eg o Ebrill 2020

Cyflwyniad Gwasanaeth Negeseuon Newydd i Gadw Cleifion Ysbyty Mewn Cysylltiad ag Anwyliaid

Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth negeseuon newydd i gadw cleifion Ysbyty mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod yr achos Coronafeirws.

Yn dilyn y penderfyniad anodd a wnaed i gau ein holl Safleoedd Ysbyty i ymwelwyr, rydym wedi gweithredu gwasanaeth 'Negeseuon o'r Cartref' newydd. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i berthnasau a ffrindiau helpu i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid yn yr ysbyty nad oes ganddynt fynediad efallai at ddyfeisiau cyfathrebu.

Bydd cyflwyno'r gwasanaeth negeseuon cleifion newydd hwn yn galluogi teuluoedd a ffrindiau i gyfleu dymuniadau da i'w hanwyliaid yn yr ysbyty trwy gyfeiriad E-bost bwrpasol.

Bydd pob neges a dderbynnir yn cael ei hargraffu gan aelod o staff a'i throsglwyddo i dîm Clinigwr y claf. Rhoddir cymorth i ddarllen negeseuon os oes angen.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Gellir barhau i ddanfon negeseuon trwy e-bost dros y penwythnos, ond ni fydd y rhain yn cael eu dosbarthu tan Ddydd Llun.
 
Dylai unrhyw un sy'n dymuno anfon neges at ffrind neu rywun annwyl anfon e-bost, ynghyd ag enw llawn y claf, Rhif y Ward a Safle'r Ysbyty at: MessagesfromHome.ABB@wales.nhs.uk.

Dydd Gwener 3ydd o Ebrill 2020

Rhoddir Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, diweddariad bellach ar effeithiau'r canllawiau 'Aros Gartref' yng Ngwent:

 


Dydd Iau 2ail o Ebrill 2020

'Rhestr Ddymuniadau' Amazon Swyddogol Y Bwrdd Iechyd Nawr Ar Gau

Sylwch, oherwydd haelioni syfrdanol pobl Gwent, mae ein Rhestr Dymuniadau Amazon ar gyfer eitemau angenrheidiol i gleifion bellach ar gau.

Rydym yn wirioneddol wedi'i orlethu gan yr ymateb gan y cyhoedd, ac ni allai ein staff a'n cleifion fod yn fwy ddiolchgar am y rhoddion hael a dderbyniwyd hyd yn hyn.

Gall unrhyw un sy'n dal i fod eisiau rhoi wneud hynny trwy ein tudalen Swyddogol 'Just Giving'.

Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus yn ystod yr amseroedd heriol iawn hyn.


Dydd Mawrth 31ain Mawrth 2020

Newidiadau Dros Dro i Feddygfeydd

Mae pob Meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd yn barod i drin cleifion a amheuir sydd â Coronafeirws (Covid 19), a'r rhai a gadarnhawyd, ac maent yn dilyn y fframwaith cymunedol cenedlaethol i wneud hynny.

Bydd a gynigir gan Meddygfeydd yn ystod Pandemig Coronafeirws yn digwydd naill ai mewn ardal ynysig o'r Feddygfa, mewn Canolfan Asesu Clinigol dros dro, neu gartref.

Er mwyn atal y firws rhag lledaenu, mewn rhai ardaloedd, mae Meddygfeydd wedi cydweithio â Phractisau eraill i gyflwyno cyfleusterau gyrru dros dro a fydd yn lleihau nifer y bobl sy'n mynd i mewn i adeiladau. Mae pebyll mawr y tu allan i adeiladau Meddygfeydd yn darparu ardal breifat, a fydd yn caniatáu i gleifion aros yn eu cerbyd wrth i arsylwadau cychwynnol cleifion gael eu cynnal. Yna bydd timau’r Feddygfa yn penderfynu a oes angen cyngor, triniaeth, apwyntiad wyneb yn wyneb, neu atgyfeiriad ar gleifion.

Ni fydd y cyfleusterau hyn yn cynnal profion ar gyfer COVID-19. Ni ddylai unrhyw un sydd ag unrhyw symptomau o COVID-19 fynd i un o'r Canolfannau Asesu hyn, a dylent barhau i ddilyn y canllawiau hunan-ynysu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/


Dydd Sadwrn 28ain Mawrth 2020

Pwysigrwydd Aros Gartref i Arafu Lledaeniad Coronafeirws (Covid-19)

Mae'r animeiddiad byr hwn yn esbonio'n union pam mae aros gartref lle bynnag y bo modd ac aros i ffwrdd oddi wrth eraill mor bwysig. Drwy arafu lledaeniad y firws gymaint â phosibl, yr ydych yn rhoi mwy o amser i Wasanaethau Gofal Iechyd greu gwelyau ychwanegol i ddarparu gofal hanfodol sy'n achub bywydau i'r rhai y mae gwir angen hynny arnynt.

 

 

Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw i ni gyd gymryd cyfrifoldeb a sicrhau ein bod yn glynu at ganllawiau Ymbellhau Cymdeithasol. 

Drwy aros gartref ac arafu lledaeniad y firws hwn yng Ngwent, gallwn #AmddiffynYGIG ac #AchubBywydau.


Dydd Gwener 27ain Mawrth 2020

 

Canslo pob Apwyntiad Deintyddol Arferol

Ein blaenoriaeth yw eich cadw chi a'n Timau Deintyddol yn ddiogel, felly peidiwch â mynd i'ch Meddygfa Ddeintyddol. Os oes gennych broblem Ddeintyddol Brys neu Argyfwng, ffoniwch yn gyntaf.

Os nad oes gennych Ddeintydd, yna ffoniwch y Llinell Gymorth Deintyddol ar 01633 744387.

Peidiwch â mynychu eich Meddygfa Ddeintyddol leol oni bai bod gennych apwyntiad brys wedi'i trefnu ymlaen llaw.


Dydd Iau 26ain Mawrth 2020

 
Gwybodaeth Bwysig ynghylch y Gwasanaeth Trawma ac Orthopedig yn ystod pandemig COVID-19
 
Oherwydd COVID-19, mae'r ffordd rydyn ni'n darparu gofal yn y Gwasanaeth Trawma ac Orthopedig yn newid.
 
Mae pob Apwyntiad a Llawdriniaeth Ddewisol (heblaw brys) wedi'u canslo, ond bydd y Gwasanaethau Brys yn parhau, er gyda rhai newidiadau.
 
Mae pob Apwyntiad Clinig Torri Esgyrn (Brys) yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent wedi cael eu canslo a'u hadleoli i Ysbyty Ystrad Fawr, lle bydd yr holl Glinigau Torri Esgyrn hyd y gellir rhagweld yn cael eu hwyluso. Os oedd gennych Apwyntiad Clinig Torri Esgyrn yn y naill neu'r llall o'r safleoedd hyn, byddwch yn derbyn gwybodaeth ynghylch dyddiad ac amser newydd yn Ysbyty Ystrad Fawr.
 
Bydd Llawfeddygaeth Trawma (Brys) yn parhau i gael ei hwyluso yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent, gyda rhai gweithdrefnau hefyd yn cael eu cynnal yn Ysbyty Gwynllyw.
 
Mae'r Ymgynghorwyr Trawma ac Orthopedig yn adolygu anghenion cleifion fesul achos. Bydd y tîm archebu/ amserlennu yn cysylltu â chi os yw Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol o'r farn ei bod yn angenrheidiol yn glinigol i chi gael eich gweld.
 
Ar gyfer unrhyw ymholiadau brys, lle bo hynny'n bosibl, cysylltwch â ni ar y cyfeiriadau e-bost isod, gan fod llinellau ffôn yn parhau i fod yn hynod o brysur.
 
Ein nod yw ymateb i bob e-bost o fewn 48 awr, ond o ystyried y sefyllfa bresennol, efallai y bydd ymatebion i ymholiadau yn cael eu gohirio.
 
Cleifion Allanol - OrthopaedicOutpatients.ABB@wales.nhs.uk
Cleifion Preswyl - OrthopaedicTreatments.ABB@wales.nhs.uk

 


Dydd Mercher, 25ain Mawrth 2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth ynghylch cloi'n rhannol, mae'n destun gofid y bydd yn rhaid i ni nawr atal pob un rhag ymweld â'n Ysbytai ar ein holl safleoedd i amddiffyn ein cleifion a lleihau lledaeniad yr haint.

Yr unig eithriad yw Partner Geni ar gyfer mamolaeth, Rhiant enwebedig ar ymweliad cyfyngedig ar gyfer cleifion sy'n blant/ babanod newydd-anedig, a fe fydd disgresiwn i gleifion ar Ddiwedd Oes.

Rydym yn cynyddu Cymorth Gweinyddol ar y Wardiau mewn ymgais i reoli galwadau ffôn ychwanegol a ragwelir, ond rydym yn annog perthnasau yn gryf i ffonio eu hanwyliaid yn uniongyrchol a defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl.

Gall cleifion gyrchu Wi-Fi am ddim i gefnogi “Rhith Ymweld”.

Rydym yn cydnabod y gallai'r penderfyniad hwn beri pryder, ond fe'i gwnaed er budd diogelwch cleifion. Rydym yn gwerthfawrogi ac angen eich cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn.

Diolch.


Dydd Mawrth, 24ain Mawrth 2020

Darpariaeth Gofal Plant ar gyfer Gweithwyr Allweddol yn ystod Covid 19


Dydd Sadwrn, 21ain Mawrth 2020

Mae'r heriau sy'n wynebu ein Bwrdd Iechyd a'r GIG yng Nghymru oherwydd Coronafeirws COVID-19 yn ddigynsail.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Laing O'Rourke, rydym yn falch o gyhoeddi bod cynlluniau ar waith i alluogi agoriad rhannol a dros dro Ysbyty Athrofaol Y Faenor, fel rhan o'n hymateb arfaethedig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn darparu hyd at 350 o welyau ychwanegol i ni erbyn diwedd Ebrill 2020. Mae gwaith bellach ar y gweill i gomisiynu rhannau o'r ysbyty i gwrdd â'r dyddiad cau ar ddiwedd mis Ebrill.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rydym yn gwneud popeth posibl yng Nghymru i gynyddu gallu ein GIG o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn. O'r herwydd, rwyf wedi cymeradwyo cyllid o hyd at £10m ar unwaith i gyflymu'r broses o adeiladu rhannau o'r Faenor, a fydd yn darparu hyd at 350 o welyau ychwanegol i'w defnyddio erbyn diwedd Ebrill 2020”.

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Glyn Jones, “Rydym yn croesawu’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Laing O’Rourke i’n galluogi i wneud defnydd cynharach o’r ysbyty newydd, a fydd yn rhan bwysig o’n cynlluniau lleol wrth ymateb i’r achosion Coronafeirws”.


Rydym yn gwbl ddiolchgar i nifer y bobl ar draws ein cymuned sy'n cynnig gwirfoddoli yn y cyfnod anodd hwn. Os hoffech wirfoddoli neu os hoffech chi siarad â ni am wirfoddoli, cwblhewch y Ffurflen Gais hon. Os ydych eisoes wedi cysylltu â ni yn mynegi eich diddordeb i wirfoddoli, a allem ofyn i chi lenwi'r Ffurflen Gais o hyd hefyd.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.


Dydd Gwener, 20fed Mawrth 2020

Oherwydd yr achos presennol o Coronavirus (COVID-19), bu'n rhaid i ni adolygu oriau agor yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Ystrad fawr.

Ar unwaith, ein hamseroedd agor fydd 7yb tan 7yp, 7 diwrnod yr wythnos.

Pe bai angen triniaeth dros nôs arnoch chi neu rywun annwyl ar gyfer Mân Anaf na all aros tan y bore canlynol, bydd ein Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Neuadd Nevill yn aros ar agor am 24 awr y dydd.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd, a diolch am eich dealltwriaeth.


Dydd Mercher, 18fed Mawrth 2020

5:00 yp

Oherwydd y sefyllfa bresennol, rydym wedi penderfynu canslo ein holl ddigwyddiadau Ymgysylltu. Felly ni fydd y digwyddiadau canlynol yn cael eu cynnal nes bydd rhybudd pellach:

  • Dydd Mercher, 25ain o Fawrth - Diwrnod Gwrando Cymunedol ASDA Caerffili (9yb - 4yp)
  • Dydd Iau, 26ain o Fawrth - Sgwrs Caerffili - Llyfrgell Rhymni (09:30-11:30)
  • Dydd Llun, 30ain o Fawrth- Diwrnod Gwrando Cymunedol - Morrisons Y Fenni (9yb- 4yp)
  • Dydd Gwener, 3ydd o Ebrill - Sgwrs Fynwy - Canolfan St Michael, Y Fenni (9.30yb-11.30yb)
  • Dydd Llun, 6ed o Ebrill - Diwrnod Gwrando Cymunedol - ASDA Pill (9yb- 4yp)
  • Dydd Gwener, 17eg o Fawrth - Diwrnod Gwrando Cymunedol - Morrisons Cwmbrân (10yb-4yp)

Diolch am eich dealltwriaeth ar hyn o bryd.


Oherwydd cyngor y Llywodraeth ynghylch Pellter Cymdeithasol a chyfyngiadau eraill a osodwyd o amgylch Covid-19, yn anffodus bu'n angenrheidiol gwahardd POB ymwelydd ac aelod arall o'r cyhoedd rhag defnyddio'r cyfleusterau bwyty yn ein holl Safleoedd Ysbyty.

Daw hyn i rym o Ddydd Iau 19eg Mawrth 2020.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.


Gweler y cyngor diweddaraf am COVID-19 gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain


Dydd Llun, 16eg Mawrth 2020

Mae llawer o bobl yn codi pryderon am Covid-19 os ydyn nhw'n dioddef o Asthma.

Gwyliwch y fideos byr hyn i ddysgu sut i ddefnyddio'ch anadlydd yn iawn a rheoli'ch symptomau anadlol yn well - gwella'ch techneg anadlu mewn tri munud yn unig!


Dydd Sul, 15fed Mawrth 2020

Oherwydd y newidiadau gweithredol yr ydym yn eu gwneud wrth baratoi ar gyfer gofalu am gleifion â COVID-19, o Ddydd Llun 16eg Mawrth, byddwn yn cau mynedfa Belle Vue yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ar gyfer cleifion sydd am gael mynediad i'n Gwasanaethau Mamolaeth a'n Bloc B, ewch i mewn trwy'r Coridor Llawr 2 neu trwy'r Fynedfa Llawr 2 (Maxillo Facial) ym mlaen yr Ysbyty.

Rydym hefyd yn adleoli'r Lolfa Rhyddhau o ward B3 i ward C4East.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth.


Dydd Sadwrn, 14eg Mawrth 2020

Rydym yn ymwybodol bod ein bwytai yn Ysbytai Brenhinol Gwent a Nevill Hall yn boblogaidd iawn, yn enwedig ar ddydd Sul.

Rydym yn sicr bod pobl wedi dechrau gwneud trefniadau amgen ar gyfer yfory. Er y bydd y bwytai yn aros ar agor, byddem yn annog pobl i beidio â dod oni bai eu bod yn ymweld â chleifion.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.


Mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n dod i’r amlwg gyda phandemig Coronavirus (COVID-19), a chyhoeddiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddoe, mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio ar frys trwy ein cynlluniau ar gyfer Penodiadau Cleifion Allanol a Gweithrediadau Dewisol nad ydynt yn rhai brys. Sicrhewch, os effeithir ar eich apwyntiad neu lawdriniaeth, y bydd gennym ni gysylltiad uniongyrchol â ni. Byddem yn gofyn yn gwrtais i chi beidio â cheisio cysylltu â'r Bwrdd Iechyd i holi a fydd eich apwyntiad, eich gweithdrefn neu'ch llawdriniaeth yn mynd yn ei blaen. Os bydd unrhyw newid i chi, bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Rydym yn ddiolchgar am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth barhaus ar yr adeg hon.


Dydd Gwener, 13eg Mawrth 2020

Wrth i ni barhau i ymateb i bandemig Coronavirus (COVID-19), fel Bwrdd Iechyd rydym yn adolygu ar frys y ffordd yr ydym yn darparu rhai o'n gwasanaethau a byddwch yn gweld rhai newidiadau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Mae angen i ni sicrhau bod gennym y gallu a'r cyfleusterau priodol i ofalu am bobl yn ein cymunedau, a fydd angen gofal yn ein hysbytai ac mewn lleoliadau cymunedol.

Byddwn yn ddiolchgar am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth wrth inni symud trwy'r hyn a fydd yn gyfnod anodd iawn i ni i gyd dros y misoedd nesaf. Byddwn yn eich diweddaru wrth i newidiadau ddigwydd.