Neidio i'r prif gynnwy

Ble Alla i Gael Cymorth Meddygol Dros y Penwythnos Gŵyl y Banc?

Rydyn ni yma i chi 365 diwrnod y flwyddyn, 24 awr y dydd. Er hoffem ni phetai penwythnos Gŵyl y Banc yn ddi-straen i chi, rydyn ni’n deall efallai y byddwch chi angen ein help ni o hyd. Nid yw'n hawdd i wybod beth sydd ar gael ar ŵyl y banc, a dyna pam rydym wedi creu rhestr o wasanaethau a fydd yno ar eich cyfer y penwythnos hwn.


Defnyddiwch y canllaw isod i ddewis y gwasanaeth cywir, y tro cyntaf. Cofiwch- gellir trin llawer o fân anhwylderau a damweiniau bach gartref gyda chymorth eich cwpwrdd meddyginiaeth!

Triniaeth yn y Cartref

Gall salwch cyffredin ysgafn megis peswch, annwyd a llwnc tost gael eu trin gartref yn hawdd dros ŵyl y banc gyda chymorth cwpwrdd meddyginiaeth llawn. Gellir trin nifer o ddamweiniau gartref hefyd gyda chymorth cyntaf sylfaenol, ac felly mae'n bwysig iawn bod gennych chi becyn cymorth cyntaf diweddar yn y tŷ.

 

Mae gen i:

 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

Mae angen.. arnaf:

 
 
 
 
 
 

 

 

GIG 111 Cymru

Ar-lein

Mae gan GIG 111 Cymru wasanaeth ar-lein 24/7, a gall roi gwybodaeth a chyngor iechyd am ddim i chi dros ŵyl y banc.

Gallwch ddefnyddio'r gwiriwr symptomau ar-lein i wirio'ch symptomau os ydych chi'n teimlo'n sâl ac angen cymorth brys- o boen dannedd i boen cefn, brech ar y croen i frathiadau a phigiadau pryfed; mae mwy na 60 o wirwyr symptomau i roi cyngor dibynadwy i chi ar eich camau nesaf.

Gallwch hefyd ddod o hyd i awgrymiadau ar gadw'n iach, rhoi'r gorau i ysmygu, gwneud ymarfer corff, bwyta'n dda a gofalu am eich lles meddyliol.

 

Ar y Ffôn

Mae gwasanaeth ffôn 111 yno i chi pan fydd angen cyngor iechyd brys arnoch neu os nad ydych yn siŵr ble i fynd. Ar gael 24 awr y dydd, gallant eich cynghori pa wasanaeth sydd orau i chi neu sut i reoli salwch neu gyflwr. Os oes angen i chi ddefnyddio ein gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau dros ŵyl y banc, gellir wneud hynny drwy ffonio 111.

Cofiwch - Os yw'n argyfwng sy'n bygwth bywyd, dylech ffonio 999 ar unwaith neu fynd yn syth i'r Adran Frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

 

 

Fferyllfa

Mae ymweld â'ch Fferyllfa leol yn ffordd wych o gael cyngor a thriniaeth arbenigol ar gyfer cyflyrau cyffredin, gan gynnwys clefyd y gwair, llid yr amrant, casewin a brech yr ieir.

 

Byddant yn gweithredu ar oriau llai ar Ŵyl y Banc- gweler isod i ddod o hyd i'ch fferyllfa agored agosaf y Gŵyl y Banc hwn.

 

 

 

Llinell Gymorth Deintyddol Frys

Os oes gennych chi broblem ddeintyddol frys na all aros nes bydd eich deintydd eich hun yn agor ar ôl Gŵyl y Banc, gellir gysylltu â’r Llinell Gymorth Ddeintyddol ar 01633 744387, lle mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau brys ar gael yng Nghlinig Clytha, Casnewydd, a/neu gellir cael cyngor.

 

Gall Fferyllfeydd Cymunedol hefyd roi cyngor ar leddfu poen a meddyginiaethau dros y cownter os oes angen, a gellir hefyd ymweld â GIG 111 Cymru Ar-lein am gyngor.

Sylwch nad yw'r ddannoedd ar ei ben ei hun (er enghraifft, y ddannoedd heb unrhyw symptomau neu arwyddion eraill) yn argyfwng deintyddol. Ni ddylai cleifion â'r ddannoedd fynd i'r Adran Frys.

Unedau Mân Anafiadau

Gall oedolion a phlant dros flwydd oed sydd ag ystod eang o anafiadau gael eu trin yn ein Hunedau Mân Anafiadau (bydd angen i bob plentyn dan flwydd oed fyn

d i Ysbyty Athrofaol y Faenor â fân anafiadau).

 

Dros benwythnos gŵyl y banc, gellir ymweld â’r Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni, sydd ar agor 24 awr y dydd, ac yna Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach, sydd ar agor tan 10yp.

Sylwch na all Unedau Mân Anafiadau drin salwch neu anafiadau difrifol. Os nad ydych yn siŵr ble i fynd, cysylltwch â GIG 111 Cymru am gyngor ac chymorth.

 

 

Yr Adran Frys

Os yw'n gyflwr difrifol neu sy'n bygwth bywyd ac angen sylw meddygol ar unwaith, dylir ffonio 999 ar unwaith, neu fynd yn syth i'r Adran Frys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor.

Yn yr Adran Frys, gellir trin argyfyngau megis anawsterau anadlu difrifol, poen difrifol parhaus yn y frest, colled gwaed difrifol, llosgiadau difrifol, colli ymwybyddiaeth, amheuaeth o strôc, clwyfau dwfn iawn, ac anafiadau trawma difrifol (fel ar ôl damwain car).

Sylwch y bydd angen i blant dan 1 oed sydd angen unrhyw ofal ysbyty fynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor ar gyfer mân anafiadau, yn ogystal ag ar gyfer cyflyrau mwy difrifol.

Os bydd rhywun yn cael anaf neu ei frifo, dylech chi:

  • Sicrhau nad ydych chi a'r claf mewn unrhyw berygl, ac, os yn bosibl, gwnewch y sefyllfa'n ddiogel
  • Os oes angen, ffonio 999 am ambiwlans pan fydd yn ddiogel i chi wneud hynny
  • Cynnal cymorth cyntaf sylfaenol

 

 

Ble I Fynd â'ch Plentyn Sâl Pan Fo Angen Cymorth arno

 

Cymorth Iechyd Meddwl Brys

Os ydych chi'n profi argyfwng Iechyd Meddwl, ni ddylech chi orfod ddelio ag ef ar eich pen eich hun.

Os ydych eisoes wedi cael gweld rhif Llinell Argyfwng gan weithiwr iechyd proffesiynol, ffoniwch ef.

Os ydych o dan ofal tîm iechyd meddwl a bod gennych gynllun gofal penodol sy'n nodi pwy i gysylltu â nhw pan fyddwch angen gofal brys, dilynwch y cynllun hwn.