Goleuodd Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth (CAD) y Bwrdd Iechyd 1000 o ganhwyllau bach tu allan i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Neuadd Nevill yr wythnos hon.
Dydd Mawrth 22 Chwefror am 7.30pm, goleuwyd 1000 o ganhwyllau bach tu allan i bob ysbyty Damweiniau ac Achosion Brys neu Uned Mân Anafiadau a’r prif orsafoedd heddlu i nodi 10fed pen-blwydd 2Wish sydd wedi cefnogi dros 1000 o deuluoedd pobl ifanc sydd wedi gadael o flaen eu hamser.
Mae 2 Wish yn elusen sy’n cynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan bobl ifanc yn marw’n annisgwyl. Mae ein Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn gweithio gyda’r elusen i gynorthwyo gyda’r gefnogaeth hon.
Fe’i sefydlwyd er cof am George, mab blwydd oed ei sylfaenydd, ac am Paul ei gŵr, a fu farw’n drychinebus 5 diwrnod yn ddiweddarach. Ei nod drwy gofio am George a Paul yw codi arian er mwyn gwella’r gefnogaeth profedigaeth sydd ar gael i bobl mewn angen.
Roedd Ysbyty Neuadd Nevill yn un o amryw o leoliadau ledled Cymru a ddewiswyd i’w goleuo gyda chanhwyllau.
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch elusen 2 Wish drwy’r ddolen hon.
Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.