Neidio i'r prif gynnwy

A ydych chi wedi cwblhau Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion yn ddiweddar?

Hoffai tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, ddysgu mwy o'ch profiad, gwybodaeth a phersbectif am y defnydd o Fesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (PROMs) yn ein Bwrdd Iechyd.

Os ydych chi'n glaf sydd wedi cwblhau PROM yn ddiweddar o dan un o'r amodau canlynol, yna byddai'r tîm ymchwil wrth eu bodd yn clywed gennych chi:

  • Offthalmoleg
  • Parkinsons
  • Epilepsi
  • Methiant y Galon

Os ydych yn fodlon i'r tîm gysylltu â chi, cwblhewch y ffurflen drwy ddilyn y linc: https://forms.office.com/r/AszwXfmhG4