Neidio i'r prif gynnwy

Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor Dan Bwysau Difrifol

Dydd Mawrth 18 Hydref 2022

Yr wythnos hon, mae ysbytai ar draws y DU yn adrodd am bwysau eithafol yn eu Hadrannau Achosion Brys (EDs) - ac nid yw'r sefyllfa yng Ngwent yn wahanol.

Ddoe, gwelodd yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor 340 o gleifion, a arweiniodd at lawer o gleifion â chyflyrau nad ydynt yn bygwth bywyd yn aros hyd at 12 awr i gael eu gweld gan Feddyg. Ar ddiwrnod arferol, mae'r ED yn gweld rhwng 140 a 220 o gleifion.

Heddiw, mae 100 o gleifion eisoes yn yr Adran Achosion Brys (erbyn 10yb) ac rydym yn apelio ar bobl i ymweld ag Ysbyty Athrofaol y Faenor dim ond â salwch difrifol sy'n bygwth bywyd yn unig.

Dywedodd Dr Alastair Richards, Cyfarwyddwr Clinigol: “Ar hyn o bryd, rydym yn gweld cynnydd o tua 30% yn nifer y cleifion mewn adrannau brys, o gymharu â diwrnod prysur arferol.

“Gwyddom bod gan tua 300 o bobl sy’n dod i Ysbyty Athrofaol y Faenor bob wythnos fân afiechydon y gellid eu trin yn rhywle arall. Gyda phethau fel y maent ar hyn o bryd, mae pobl sy’n mynychu gyda’r fath fân afiechydon yn debygol o fod yn aros yn hir iawn i gael eu gweld.”

Ffoniwch 111 am gyngor, neu defnyddiwch wiriwr symptomau GIG Cymru ar-lein, cyn mynd i’r Adran Achosion Brys. Ar gyfer salwch nad yw'n bygwth bywyd, ymwelwch â'ch fferyllydd lleol, neu cysylltwch â'ch meddygfa - cofiwch fod eu staff hefyd yn gweithio dan bwysau sylweddol.

Fel arall, os oes gennych fân anaf, ewch i'r Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Brenhinol Gwent, neu Ysbyty Aneurin Bevan.

 

Mae ein staff yn gwneud gwaith anhygoel o dan bwysau aruthrol a hoffem ddiolch iddynt am eu hymroddiad i gleifion ar yr adeg hon.