Neidio i'r prif gynnwy

Agoriad Swyddogol Gardd Goffa Mynydd Mawr

Dydd Mawrth 19 Ebrill 2022

Agorwyd Gardd Goffa newydd Mynydd Mawr yn Ysbyty Nevill Hall yn swyddogol ar Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022.

Mae Gardd Goffa newydd Mynydd Mawr yn cynnig mwy o le i'r rhai sy'n talu teyrnged i fabanod ac anwyliaid sydd, yn anffodus, wedi marw, tra bydd ei hen gartref yn gwneud lle i'n Canolfan Radiotherapi Lloeren newydd. Arweiniwyd y seremoni agoriadol gan y Prif Weithredwr Dros Dro, Glyn Jones, ac roedd yn cynnwys darlleniadau gan Gaplaniaid y Bwrdd Iechyd a cherddoriaeth gan Fand Pres Brynbuga.

Yn ogystal â chadw’r holl ddarnau sentimental presennol o'r safle gwreiddiol, mae'r ardd newydd hefyd yn cynnwys mainc goffa a choeden er anrhydedd un o'n cydweithwyr, Sian Kenvyn, a fu farw yn anffodus oherwydd Covid-19.

Yn ei deyrnged iddi, dywedodd Glyn: "Meddyliwn am ei theulu annwyl, a gobeithiwn y bydd yr ardd yn eu cysuro nhw a’i chydweithwyr rhywfaint wrth iddynt ei chofio a'i hanrhydeddu. Mae'r ardd hon yn ein hatgoffa bod yr anwyliaid sydd wedi ein gadael ni yn rhan o’n meddyliau a'n calonnau o hyd."

Diolch i bawb a fu'n rhan o’r prosiect ac i'r rhai a fynychodd y seremoni heddiw, yn ogystal ag i Fand Pres Brynbuga a Chynghrair y Cyfeillion am gefnogi’r digwyddiad.