Neidio i'r prif gynnwy

Ailgyflwyno Gwisgo Masg

Dydd Mawrth 7fed Hydref 2025

Oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o salwch y gaeaf ar draws ein safleoedd, mae gofyn i’n holl staff, ymwelwyr a chleifion wisgo masgiau gwrth-hylif wrth ddod i mewn i’n ysbytai, wardiau, Adran Achosion Brys a phob lleoliad clinigol arall, gan gynnwys ein Unedau Mân Anafiadau (MIU). Mae’r gofyniad hwn yn dod i rym ar unwaith.

Bydd masgiau ar gael ym mynedfeydd y wardiau a’r mannau clinigol.

At hyn, oherwydd lefelau uchel o salwch y gaeaf sy’n cylchredeg yn ein cymunedau ac yn ein hysbytai, gofynnwn i bobl ddod â llai o bobl gyda nhw pan fydd angen iddynt ddod i’r ysbyty os yw hynny’n bosib.

Byddwn nawr yn cyflwyno ‘ymweld â phwrpas’ i wardiau neu faeau sydd wedi cau oherwydd brigiau o achosion.

 

Byddwn yn sicrhau fod ymweld yn cael ei gefnogi ar gyfer:

  • Ymweld â rhywun sy’n wael iawn neu ar ddiwedd ei oes
  • Cefnogi claf sydd angen cymorth o unrhyw fath
  • Mynd i’r afael â rôl gofalwr
  • Bod yn bresennol ar gyfer trafodaethau arwyddocaol am ofal, triniaeth neu ryddhau claf.

 

Bydd gwisgo masg a defnyddio arferion hylendid dwylo da yn ein helpu i ddiogelu ein cleifion mwyaf agored i niwed a lleihau’r risg o ledaenu salwch.

Rydym yn annog pawb i’n helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel y gaeaf hwn trwy:

😷 Wisgo masg pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw un o’n safleoedd

🧼 Golchi eich dwylo’n rheolaidd

💉 Cael eich brechlyn Ffliw neu Covid-19 os ydych chi’n gymwys

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i gadw ein cymunedau’n ddiogel y gaeaf hwn.