Diogelwch Eich Hun y Gaeaf Hwn: Brechiadau Ffliw a COVID-19 Bellach Ar Gael i'r Rheini sy'n Gymwys

Mae pobl 65 oed a throsodd, y rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor penodol, ac unigolion sydd ag imiwnedd isel yn cael eu hannog i fanteisio ar eu brechiad ffliw am ddim wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan lansio ei raglen frechu gaeaf.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn annog y rhai sy'n gymwys i dderbyn eu brechiad COVID-19 pan fyddant yn cael gwahoddiad, er mwyn helpu i gynnal amddiffyniad rhag salwch difrifol a lleihau'r risg o fynd i'r ysbyty yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae brechu yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddiogelu rhag clefydau heintus difrifol. Drwy gael eu brechu, gall pobl helpu i ddiogelu eu hiechyd eu hunain yn ogystal â lleihau'r risg o ledaenu heintiau i deulu, ffrindiau ac eraill a allai fod yn fwy agored i niwed.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn atgoffa trigolion am y brechlyn yn erbyn Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Yn wahanol i'r brechiadau ffliw a COVID-19 tymhorol, mae'r brechlyn RSV ar gael drwy gydol y flwyddyn i oedolion hŷn cymwys a menywod beichiog. Mae RSV yn feirws anadlol cyffredin a all achosi salwch difrifol, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn a babanod bach, ac mae heintiau'n tueddu i fod yn fwy cyffredin yn ystod yr hydref a'r gaeaf.

Mae Brechlynnau'n Helpu i Ddiogelu Rhag Salwch Difrifol

Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

"Wrth i ni symud i gyfnod yr hydref a'r gaeaf, mae feirysau anadlol gan gynnwys ffliw, COVID-19 ac RSV yn dod yn fwy cyffredin yn ein cymunedau. Er y gall yr heintiau hyn effeithio ar unrhyw un, mae oedolion hŷn, pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a'r rhai sydd â system imiwnedd wan mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael.

"Mae brechu yn darparu haen bwysig o amddiffyniad. Mae'n helpu i leihau'r risg o salwch difrifol, yn cefnogi pobl i gadw'n iach drwy gydol y gaeaf, ac yn helpu i ddiogelu'r rhai o'n cwmpas a allai fod yn fwy agored i niwed. Byddem yn annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y brechlynnau a gynigir iddynt pan gânt wahoddiad.

"Er bod y brechlyn RSV ar gael drwy gydol y flwyddyn, mae'n arbennig o bwysig bod yn ymwybodol ohono wrth i ni fynd i mewn i gyfnod y gaeaf pan fo nifer yr achosion yn tueddu i gynyddu. Gall RSV achosi salwch anadlol difrifol ymhlith oedolion hŷn a babanod bach, ac mae brechu yn cynnig amddiffyniad gwerthfawr i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl."

Sut i Gael Eich Brechiadau

Bydd pobl sy'n gymwys ar gyfer brechiadau ffliw a COVID-19 yn cael gwybodaeth am sut i drefnu eu hapwyntiad drwy eu meddygfa, fferyllfa gymunedol neu wasanaeth brechu'r Bwrdd Iechyd.

Anogir unrhyw un nad ydynt yn siŵr pa frechiadau y gallent fod yn gymwys ar eu cyfer i ymweld â thudalennau gwe imiwneiddio'r Bwrdd Iechyd neu i siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am frechiadau ffliw, COVID-19 ac RSV, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd a sut i'w cael, ewch i dudalennau gwe imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Imiwneiddiadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Fel arall, cysylltwch â'r Ganolfan Archebu Brechiadau ar 0300 303 1373 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) neu e-bostiwch abb.vsbc@wales.nhs.uk.