Neidio i'r prif gynnwy

Aneurin Bevan yw'r Ail Fwrdd Iechyd yng Nghymru i Gyrraedd 1 Miliwn o Frechiadau

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021

Heddiw, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw'r ail Fwrdd Iechyd yng Nghymru i gyrraedd y garreg filltir anhygoel o roi 1,000,000 o frechiadau i'w thrigolion.

Mae Rhaglen Brechu Torfol y Bwrdd Iechyd, a ddechreuodd ar ddechrau mis Rhagfyr y llynedd, wedi cynnig dosau cyntaf, ail, trydydd a'r ddos atgyfnerthu o'r brechlyn Covid-19 mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gan ddechrau gyda brechu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a'r rheini sy'n 80 oed neu'n hŷn, mae'r rhaglen bellach wedi cynnig brechiad dos cyntaf i bob un o'i thrigolion 12 oed neu'n hŷn, yn ogystal â'i weithlu iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen lleol.

Gan gyfrannu at y garreg filltir anghredadwy o filiwn o frechiadau, mae rhaglen atgyfnerthu’r hydref eisoes wedi rhoi 107,140 o ddosiau atgyfnerthu a thrydydd dos o’r brechiad Covid-19. Mae dros 25,000 o staff cartrefi iechyd, cymdeithasol a gofal a dros 70% o boblogaeth dros 80 mlwydd oed y Bwrdd Iechyd bellach wedi derbyn eu dos atgyfnerthu ers i'r rhaglen atgyfnerthu ddechrau ym mis Medi 2021.

Mae cynnig dosau atgyfnerthu i bawb sy'n 65 oed neu'n hŷn hefyd wedi hen ddechrau, a bydd y rhaglen yn parhau i gynnig dosau atgyfnerthu i bawb sy'n gymwys yn unol â'r grwpiau blaenoriaeth ag argymhellir gan JCVI.

Gyda chyfuniad o Ganolfannau Brechu Torfol, Meddygfeydd Meddygon Teulu, Timau Brechu Symudol a Fferyllfeydd yn rhoi brechiadau ers ddechrau'r rhaglen, mae llwyddiant y Rhaglen Frechu uchelgeisiol hon diolch i waith caled ac ymroddiad yr holl staff, yn ogystal â'r gefnogaeth amhrisiadwy a dderbyniwyd gan Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Hamdden, staff Milwrol, staff gofal iechyd wedi'u hadleoli, gwirfoddolwyr, myfyrwyr nyrsio a Heddlu Gwent.

Dywedodd Mererid Bowley, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus a Phennaeth y Rhaglen Brechu Torfol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn ein helpu i gyflawni’r Rhaglen Brechu Torfol anhygoel hon ers ei dechrau fis Rhagfyr diwethaf. 11 mis yn ddiweddarach, rydym wedi cyrraedd y garreg filltir hon o roi 1 miliwn o frechiadau ac rydym mor falch ein bod wedi cyflawni hyn.

“Hoffem ddiolch i holl breswylwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sydd eisoes wedi derbyn eu brechlyn Covid-19. Mae brechiadau yn achub bywydau, felly os ydych chi'n 12 oed neu'n hŷn ac eisioes heb dderbyn eich brechiad, dewch draw i amddiffyn eich hun rhag y firws hwn."

 

Derbyniodd Lesley, 85 oed, o Bont-y-pŵl, y ddos miliynfed, wrth iddo fynychu Stadiwm Cwmbrân a'i ferch, Dawn, i dderbyn ei ddos atgyfnerthu.

Dywedodd Les: "Rwy'n teimlo'n arbennig iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod bellach wedi derbyn tri brechiad, ac mae derbyn dos miliynfed y Bwrdd Iechyd hwn yn anrhydedd i mi! Bu'r fenyw a roddodd fy mrechiad i mi yn hyfryd."

Uwch Nyrs ar gyfer Imiwneiddio a Brechu, Helen, oedd yr imiwneiddiwr a rhoddodd y ddos miliynfed i Les. Mae Helen yn hyfforddwr imiwneiddio yn ogystal â bod yn imiwneiddiwr ei hun, ac mae wedi hyfforddi dros 1500 o aelodau staff ers dechrau Rhaglen Brechu Torfol Covid-19 fis Rhagfyr diwethaf.

Dywedodd Helen: "Rwyf wedi bod yma o ddechrau'r rhaglen hon, felly mae'n bleser enfawr gallu rhoi ein brechlyn miliynfed."

 

Yn y lluniau isod chwith-dde: Les yn derbyn ei frechiad, Les â Helen, a Les a'i ferch, Dawn.

 

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am raglen Brechu'r Bwrdd Iechyd.