Wrth i wyliau banc y Nadolig agosáu'n gyflym, rydym yn annog trigolion i archebu unrhyw feddyginiaeth reolaidd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon i’w para drwy gyfnod yr ŵyl.
Gan y bydd pob meddygfa a mwyafrif y fferyllfeydd cymunedol ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan, bydd mynediad cyfyngedig iawn at fferyllfeydd dros y dyddiau hyn ac mae timau fferylliaeth Gwent yn gofyn i gleifion baratoi ar gyfer eu hanghenion meddyginiaeth trwy eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw.
Meddai Richard Evans, Arweinydd Fferylliaeth Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Mae ein fferyllfeydd cymunedol a Meddygfeydd yn gweithio’n galed iawn trwy gydol y flwyddyn i ddiwallu anghenion trigolion lleol a darparu’r gwasanaeth gorau posibl iddynt, ond gall cyfnod y Nadolig fod yn gyfnod brysur iawn a heriol i ni wrth i ni weld nifer uwch o geisiadau am bresgripsiwn yn yr wythnosau cyn gwyliau'r 'dolig.
“Rydym bob amser yn gofyn i gleifion archebu eu presgripsiynau rheolaidd o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn bod ei angen arnynt, ond mae hyn yn hynod bwysig dros y cyfnod prysur hwn, gan y bydd yna nifer uwch o geisiadau i’w prosesu ac ni fyddem am i unrhyw un fod heb eu meddyginiaeth reolaidd.
“Gallwch chi helpu eich Fferyllfa a'ch Feddygfa leol i’ch helpu chi drwy gynllunio ymlaen llaw, ac os fydd angen eich presgripsiwn rheolaidd dros gyfnod y Nadolig, cofiwch ei archebu mewn digonedd o amser i’w brosesu.”
Bydd cyfran fach o fferyllfeydd Gwent ar agor am oriau cyfyngedig dros wyliau banc ar gyfer anghenion brys. Mae'r amserlen hon ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd: Rotai Y Tu Allan i Oriau ac Oriau Agor Estynedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Dylai unrhyw un sydd angen cymorth meddygol brys dros gyfnod y Nadolig ymweld â Chanllaw Iechyd Gwent i weld ble y gallant fynd i gael cymorth: Canllaw Iechyd Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan