Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i arddangos eich cyflawniadau anhygoel yn y maes gwella yng Ngwobrau GIG Cymru 2023

Dydd Gwener 5 Mai 2023

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru. Pa un a ydych wedi gwneud newid mawr neu fach, mae’r gwobrau yn gyfle i chi arddangos eich gwaith gwych dros iechyd a gofal ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Bydd yr enillwyr yn cael cynnig cefnogaeth barhaus. Bydd ganddynt lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r categorïau yr un fath â’r llynedd:
 

  • Darparu iechyd a gofal o werth uwch
  • Darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal
  • Cyfoethogi llesiant, gallu ac ymgysylltu’r gweithlu iechyd a gofal
  • Iechyd a llesiant
  • Gwella diogelwch cleifion
  • Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru
  • Gweithio'n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector

Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, yr Athro John Boulton, “Fel trefnwyr Gwobrau GIG Cymru, rydym wrth ein bodd ei bod bron yn amser cyflwyno ceisiadau ar gyfer eleni. Mae'n bwysig arddangos y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ar draws y GIG yng Nghymru ac mae hwn yn llwyfan gwych i wneud hynny. Pob lwc i bob un ohonoch sy'n cystadlu, rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau.”

Darllenwch ganllawiau ar gyfer ceisiadau Gwobrau GIG Cymru. I gael awgrymiadau a chyngor lleol pellach, mae tîm Gwella Ansawdd BIPAB o fewn ABCi ar gael i helpu.

Mae ceisiadau ar agor tan 3 Gorffennaf 2023. Pob lwc!