1af Hydref 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi ei Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) diweddaraf, sy'n nodi anghenion gwasanaeth fferyllol presennol ac yn y dyfodol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd.
Mae'r asesiad yn ofyniad statudol ac mae'n cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod gwasanaethau fferyllol lleol yn parhau i ddiwallu anghenion cymunedau ledled Gwent.
Mae'r Asesiad Anghenion Fferyllol yn darparu darlun cynhwysfawr o ddarpariaeth fferylliaeth ledled y rhanbarth a bydd yn helpu i lywio penderfyniadau am wasanaethau fferyllol yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried ceisiadau am fferyllfeydd cymunedol newydd a nodi cyfleoedd i fynd i'r afael ag anghenion iechyd lleol trwy ofal a arweinir gan fferyllfa.
Mae'r ddogfen yn dwyn ynghyd wybodaeth am yr ystod o wasanaethau fferyllol sydd ar gael i breswylwyr, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Mae hefyd yn ystyried sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar draws cymunedau lleol a rhwydweithiau gofal cymdogaeth.
Fel rhan o'r asesiad, mae mapio manwl wedi'i gynnal i ddangos lleoliad a hygyrchedd darparwyr gwasanaethau fferyllol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd. Mae'r adroddiad hefyd yn archwilio anghenion iechyd y boblogaeth, yn tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol, ac yn nodi meysydd lle gallai fod angen gwasanaethau fferyllol ychwanegol yn y dyfodol.
Mae fferyllfeydd yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl i gael mynediad at ofal iechyd yn agosach at adref, gan gynnig cyngor, triniaeth ar gyfer ystod o gyflyrau cyffredin, cymorth gyda meddyginiaethau, a chyfeirio at wasanaethau eraill pan fo angen.
Bydd yr Asesiad o Anghenion Fferyllol yn helpu i sicrhau bod cynllunio a buddsoddi mewn gwasanaethau fferyllol yn y dyfodol yn seiliedig ar anghenion cymunedau lleol, gan helpu preswylwyr i gael mynediad at ofal diogel, effeithiol a chyfleus pryd a ble mae ei angen arnynt.
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i roi adborth yn ystod y cyfnod ymgynghori. Ystyriwyd yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn ofalus, a gwnaed diwygiadau lle bo hynny'n briodol. Mae crynodeb llawn o'r adborth ymgynghori ac ymatebion y Bwrdd Iechyd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad PNA terfynol yn Atodiad K.