Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Anghenion Fferyllol

Mae Rheoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd lunio ei ail Asesiad Anghenion Fferyllol (AAFf) erbyn 1 Hydref 2026.

Amcan y PNA yw gwella’r dull o gynllunio a darparu gwasanaethau fferyllol yng Nghymru, a nodi lle y gallai fod angen adeiladau contractwyr ychwanegol (fferyllwyr ar gontract a chontractwyr cyfarpar, lle y mae angen gwasanaethau gweinyddu ychwanegol gan feddygon, a hefyd i bennu lle mae contractwyr presennol yn mynd i’r afael ag anghenion fferyllol yn ddigonol).

Caiff yr Asesiad Drafft o Anghenion Fferyllol ei gyhoeddi ar gyfer cyfnod ymgynghori 60 diwrnod o'r 2af o Orffennaf tan y 31ain o Awst 2026. Mae hyn wedi’i ddosbarthu i’r cyrff hynny a nodir yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, sy’n nodi’r wybodaeth ofynnol i’w chynnwys a gofynion y PNA. 

Caiff y PNA hwn ei gyhoeddi ar 1 Hydref 2026, a bydd yn weithredol am bum mlynedd ar y mwyaf.

Yn ogystal ag ystyried anghenion presennol, mae’r ddogfen yn edrych tuag at y dyfodol, gan ystyried beth allai newid dros y pum mlynedd nesaf a ph’un a fydd digon o fferyllfeydd ai peidio yn y mannau iawn, sy’n darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, er enghraifft, wrth i ragor o dai gael eu hadeiladu .

Os hoffech chi rannu eich barn ar Asesiad Anghenion Fferyllol newydd (PNA), gellir ddarllen y ddogfen ddrafft ymgynghori sydd ar gael ar waelod ein tudalen Fferyllfeydd Fferyllfeydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chwblhau’r arolwg yma: Cwestiynau Ymgynghori ar Asesiad o Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Fill in form

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y ddogfen neu’r arolwg, cysylltwch â ABB.Primarycareservices@wales.nhs.uk