Mae’r gaeaf yn cyflwyno heriau unigryw i lawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gwympo a thorri asgwrn. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae tîm pwrpasol y Gwasanaeth Cyswllt Torasgwrn (FLS) yn gweithio i leihau’r risgiau hyn a chefnogi cleifion.
Mae osteoporosis yn gyflwr cyffredin sy'n gwanhau esgyrn, gan eu gwneud yn fwy tebygol o dorri, problem sy'n aml yn peri mwy o risg yn ystod misoedd rhewllyd y gaeaf. Ledled Cymru, mae dros 20,000 o achosion o dorasgwrn yn digwydd bob blwyddyn, gan gynnwys mwy na 4,000 o doriadau clun, gyda llawer ohonynt yn arwain at boen, anabledd, neu golli annibyniaeth. Yn frawychus, os na chaiff hyn ei drin, mae’r siawns o dorri asgwrn arall o fewn 12 mis yn unig yn un o dri, gan greu’r hyn y mae clinigwyr yn ei alw’n “rhaeadriad toresgyrn.”
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth ac atal, a diolch i arloesi mewn gwasanaethau megis y FLS, gellir lleihau'r risg o dorasgwrn wedi hynny o gymaint â 40%.
Arweinir FLS y Bwrdd Iechyd gan feddygon ymgynghorol arbenigol, a gefnogir gan dîm o Nyrsys Clinigol Arbenigol (CNS) a staff cefnogi sy'n gweithio ar y cyd i nodi, trin a chefnogi cleifion sy’n dioddef torasgwrn breuder. Mae'r tîm yn nodi cleifion dros 50 oed sydd wedi cael torasgwrn breuder. Unwaith y cânt eu nodi, mae cleifion yn cael asesiad iechyd cynhwysfawr dros y ffôn, ac mae hyn yn caniatáu i'r tîm benderfynu ar y camau gweithredu gorau.
Nid yw'r gwasanaeth yn dod i ben pan wneir diagnosis. Mae cleifion y canfyddir eu bod yn wynebu risg uchel o dorasgwrn yn y dyfodol yn cael eu cefnogi gan gynllun holistaidd sy'n cynnwys triniaethau wedi'u teilwra, cyngor ar ffordd o fyw, meddyginiaeth ac apwyntiadau dilynol rheolaidd.
Dywedodd Dr Shannon Rowlands : “Os oes gan glaf dorasgwrn, mae’n debyg eu bod mewn mwy o berygl o gael un yn y dyfodol. Felly mae'n bwysig i ni nodi'r cleifion hynny sydd angen ychydig mwy o gymorth ac yna triniaeth i wneud yn siŵr eu bod yn lleihau eu siawns o gael un yn y dyfodol.
“Mae’r gwasanaeth yn wych oherwydd mae’n debyg nad oes unrhyw beth wedi bod yn y system cyn hyn. Ni fyddai cleifion wedi cael yr alwad ffôn hon fel arall. Ni fyddent wedi cael nyrs i wirio eu hiechyd yn gyffredinol, yn ogystal â'u hesgyrn. Felly rwy’n meddwl ei fod yn ddull holistaidd braf a gobeithio ei fod yn gwneud i gleifion deimlo eu bod wedi’u grymuso i ofalu am eu hiechyd hefyd.”
Mae effaith yr FLS yng Ngwent wedi bod yn rhyfeddol. Mae tystiolaeth yn dangos y gall FLS sy’n gweithredu’n dda nodi dwywaith cymaint o gleifion sydd mewn perygl o dorri asgwrn oherwydd breuder o gymharu ag ardaloedd heb wasanaethau o’r fath. Mae hyn yn sicrhau bod mwy na 50% ohonynt yn cael triniaeth iechyd esgyrn briodol. I gleifion yn rhanbarth Gwent, mae hyn yn golygu llai o doresgyrn, llai o amser yn cael ei dreulio yn yr ysbyty, ac yn bwysicaf oll, ansawdd bywyd gwell.
Dywedodd Dr Inder Singh, Meddyg Ymgynghorol a Geriatregydd ar gyfer Cwympiadau ac Iechyd Esgyrn:
“Mae effaith toresgyrn breuder yn mynd y tu hwnt i anaf corfforol, ac yn arwain at golli annibyniaeth ac ofn toresgyrn pellach. Mae’r toriadau hyn yn costio £4.7 biliwn y flwyddyn i’r GIG, gan gynnwys £133 miliwn yng Nghymru, gan roi pwysau cynyddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Os bydd rhywun yn profi torasggwn, mae’r siawns y byddant yn cael un arall o fewn 12 mis yn un o bob tri.
“Gall cynllun hunanofal syml, gan gynnwys cadw’n heini, bwyta’n iach, a chydnabod risgiau o ran cwympiadau, wneud gwahaniaeth mawr.”
Drwy nodi cleifion yn gynnar, cynnig ymyriadau wedi’u teilwra, a grymuso unigolion i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, mae’r tîm FLS yn sicrhau nad oes rhaid i weddill y gaeaf olygu tymor o risg a phryder i’r rheini sydd â thoresgyrn breuder neu osteoporosis.
Mae’r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw tîm angerddol, medrus ynghyd â chenhadaeth glir: i atal toriadau, gwella bywydau, a chreu dyfodol iachach i bawb.
Darganfyddwch fwy yma Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Ansawdd ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn (6 Rhagfyr 2024) | LLYW.CYMRU
Neu dysgwch fwy am y gwasanaeth yma Gwasanaeth Cyswllt Torasgwrn (FLS) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan