Neidio i'r prif gynnwy

Atgoffa pobl o'r newidiadau i'n gwasanaethau GIG

29ain Ebrill 2021

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal ymgyrch mewn tafarndai, clybiau a safleoedd tacsi lleol i annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth cywir, neu fynychu'r ysbyty cywir ar gyfer eu hanghenion, pan fyddant yn sâl neu wedi'u hanafu.

Pan agorodd Ysbyty Athrofaol y Grange yng Nghwmbrân fis Tachwedd diwethaf, hi oedd yr unig Adran Achosion Brys (damweiniau ac achosion brys) i bawb yng Ngwent.

Mae Unedau Mân Anafiadau dal i fod yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Nevil Hall, ond nid ydyn nhw'n gallu trin cyflyrau difrifol iawn sy'n peryglu bywyd fel trawiadau y galon, strôc ac anhawsterau anadlu.

Mae poster a phecyn cyfathrebu digidol yn cael ei gylchredeg i dafarndai, clybiau a safleoedd tacsi lleol er mwyn iddynt rannu'r wybodaeth bwysig hon â'u cwsmeriaid i helpu i osgoi presenoldeb amhriodol yn ein hysbytai.

Rhannwch y wybodaeth bwysig hon hefyd gyda'ch ffrindiau ac aelodau'ch teulu fel y gallant helpu i gyfeirio pobl a allai fod wedi'u hanafu neu'n sâl i'r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.

Gwerthfawrogwn eich cymorth gyda'r mater hwn o ddiogelwch y cyhoedd.

Poster - Ydych chi'n gwybod lle i fynd am gymorth meddygol brys?

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein llyfryn gwybodaeth Dyfodol Clinigol