Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Presgripsiynu Cymdeithasol? Gadewch i straeon lleol eich ysbrydoli i fynd allan a chymdeithasu

Mae diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol wedi cyrraedd, ac rydym am ddweud wrthych faint y gall eich iechyd a'ch lles elwa o hyn. Presgripsiynu Cymdeithasol yw 'cysylltu pobl â gweithgareddau, grwpiau a chymorth sy'n gwella iechyd a lles.' Ni all meddygon neu feddyginiaeth ar eu pen eu hunain drin llawer o bethau a all effeithio ar ein hiechyd bob amser, a dyma ble gall Presgripsiynu Cymdeithasol helpu.  

Rydym wedi cysylltu â phobl leol ledled Gwent sy'n elwa o weithgareddau cymunedol a mynd fan hyn fan draw - darllenwch eu straeon isod. 


Stori Mark 

“Rwyf wedi bod yn ymwneud â Dicky Tickers Caerffili ers iddo ddechrau." meddai Mark. "Rwy’n teimlo bod y grŵp wedi rhoi anogaeth i mi barhau i ymgysylltu’n gymdeithasol, rydym yn cyfarfod yn wythnosol am goffi a sgwrs ac mae ambell i ymwelydd yn dod i roi sgyrsiau addysgol sydd â thema iechyd yn bennaf. Mae’r rhain wedi bod yn ddefnyddiol o ran egluro meddyginiaethau a hyd yn oed rhai o’r problemau meddygol y gallwn eu hwynebu. 

"Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn wythnosol ond bob yn ail wythnos rydym yn mynd am dro gyda Huw, y Cydlynydd Lles Natur o’r Bwrdd Iechyd, ac mae gennym Ian o fywyd gwyllt Gwent sy’n rhoi llawer o sgyrsiau llawn gwybodaeth am agweddau ar yr ardal gyfagos o safbwynt hanesyddol ac yn bennaf yr amrywiol blanhigion a bywyd gwyllt. Rwy’n teimlo bod y teithiau cerdded yn ymlaciol ac mae’r amser yr ydym allan yng nghefn gwlad neu mewn parciau yn rhoi ysbaid hyfryd o’r straen a’r cymhlethdodau sy’n dod yn sgil byw gyda salwch gydol oes.” 

 

 

 

 

 

 

 


Stori Janet 

Trodd bywyd Janet, o Flaenau Gwent, yn wyneb i waered pan ddaeth yn anabl, a dirywiodd ei hiechyd meddwl yn sylweddol hefyd. Clywodd ei gŵr, a oedd yn gorfod bod gyda hi bob amser oherwydd ei gorbryder difrifol, am y grŵp Celf a Chrefft sy’n cael ei redeg ar y cyd gan aelodau o dîm Rhwydweithiau Lles Integredig Blaenau Gwent a gwelodd fel cyfle da i wella iechyd meddwl Janet.

O fewn wythnos o fynychu, roedd hi'n teimlo ei bod hi wedi cael ei bywyd yn ôl ac felly hefyd ei gŵr. Rhoddodd Janet y gorau i ysmygu, bellach mae ganddi arian i fynd i siopa gyda'i merch ac mae wedi "syrthio mewn cariad gyda’i gŵr eto".  

 

  


Eisiau gwybod mwy am Bresgripsiynu Cymdeithasol a gweithgareddau yn eich ardal? Ewch i'n tudalen we Rhwydwaith Lles Integredig i ddarganfod beth sydd ymlaen: 

  

Blaenau Gwent: https://bginthistogether.co.uk/  

Caerffili: https://www.cwtsh.cymru/ https://naturewellbeing.wales/cy/hafan 

Sir Fynwy: https://www.monmouthshire.gov.uk/money-matters/ 

Casnewydd: https://www.yournewport.co.uk/ 

Torfaen: https://connecttorfaen.org.uk/