Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn RSV - Nid ar gyfer y Gaeaf yn Unig

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn atgoffa pobl fod y brechlyn RSV yn darparu amddiffyniad drwy gydol y flwyddyn, nid yn ystod y gaeaf yn unig, gydag un dos, y gallant ei dderbyn yn eu Meddygfa Meddyg Teulu neu Ganolfan Frechu BIPAB yng Nghwmbrân.  

Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn aml yn gysylltiedig â misoedd oerach, gan fod achosion ar eu hanterth yn yr hydref a'r gaeaf. Fodd bynnag, mae'r firws ar led drwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu nad yw'r risg byth yn diflannu'n llwyr. 

Beth yw RSV? 
 

Mae RSV yn firws gyffredin iawn sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu. Fel arfer mae'n achosi mân symptomau tebyg i annwyd megis trwyn yn rhedeg, peswch a thwymyn. Fodd bynnag, i fabanod ac oedolion hŷn gall arwain at afiechydon mwy difrifol fel bronciolitis neu niwmonia. 

Amddiffyniad drwy gydol y flwyddyn 
 

Er bod gweithgarwch RSV yn uwch yn y gaeaf, gall pobl ei ddal ar unrhyw adeg. Dyna pam mae rhaglen frechu'r GIG yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn, yn hytrach nag yn dymhorol fel y ffliw. 

Cynigir y brechlyn i grwpiau cymwys, gan gynnwys menywod beichiog ac oedolion hŷn, er mwyn sicrhau amddiffyniad pryd bynnag y bydd amlygiad yn digwydd. 

Pam mae amseru'n bwysig 


Anogir pobl i gael y brechlyn cyn gynted ag y byddant yn gymwys. 

  • I fenywod beichiog, mae brechu o 28 wythnos ymlaen yn fodd o amddiffyn eu babi o pan fydd yn cael ei ​​eni. 

  • I oedolion hŷn, mae un dos yn rhoi amddiffyniad tymor hwy rhag salwch difrifol. 

Firws gyffredin a all gael effaith ddifrifol 
 

Mae RSV yn hynod gyffredin, ond gall fod yn ddifrifol i fabanod, oedolion hŷn a'r rheiny sydd â chyflyrau isorweddol. Bob blwyddyn yng Nghymru mae'n cyfrannu at dderbyniadau i'r ysbyty a mwy o bwysau ar wasanaethau'r GIG. 

Yn wahanol i frechlynnau ffliw, mae'r brechlyn RSV ar hyn o bryd yn darparu amddiffyniad parhaol o un dos, gan ei wneud yn addas i'w roi drwy gydol y flwyddyn. 

Anogir unrhyw un sy'n cael cynnig y brechlyn i'w gymryd ar unwaith i amddiffyn eu hunain ac eraill. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: 
https://abuhb.nhs.wales/vaccinations/respiratory-syncytial-virus-rsv/