Neidio i'r prif gynnwy

Brechu Covid - A ydych chi'n cael eich pen-blwydd yn 18 oed yn ystod y 12 wythnos nesaf?

Dydd Gwener 23 Gorffennaf 2021

A ydych chi'n cael eich pen-blwydd yn 18 oed yn ystod y 12 wythnos nesaf?

Yn dilyn cyhoeddiad gan y JCVI yn gynharach yn yr wythnos, mae'r unigolion hynny a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed cyn pen y deuddeg wythnos nesaf yn gymwys i gael cynnig y brechlyn COVID-19.

Sylwch y byddwn yn cynnal clinigau brechu pwrpasol i'r grŵp oedran hwn rhwng 9  11 Awst, a bydd manylion eich apwyntiad yn cael eu hanfon i'ch cyfeiriad cofrestredig a dylent eich cyrraedd erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Os na allwch fynychu'ch apwyntiad, byddwn yn cynnig apwyntiad arall i chi. Cael y brechlyn yw'r ffordd orau o ddiogelu'ch hunan a'ch anwyliaid rhag COVID-19.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  JCVI yn cyhoeddi cyngor ar frechu plant a phobl ifanc COVID-19 - GOV.UK (www.gov.uk)