Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog pobl i ofyn am gyngor cyn mynychu'r ysbyty y Gaeaf hwn

Dydd Gwener 15 Hydref 2021

Wrth i staff y GIG barhau i ymateb i ganlyniadau'r Pandemig Covid-19, mae tymor y gaeaf eleni yn edrych i fod y prysuraf a welwyd erioed i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ynghyd â Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru a'r DU.

Mae Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn darparu gofal arbenigol a chritigol i ardal y Bwrdd Iechyd ac yn gartref i Adran Frys y rhanbarth. Mae canoli staff ac offer arbenigol iawn mewn un ysbyty yn golygu y gellir cynnig y lefelau uchaf o ofal a chefnogaeth i'r cleifion sâl.

Pan agorodd yr ysbyty newydd yng Nghwmbrân ym mis Tachwedd 2020, newidiodd swyddogaeth ysbytai eraill yn y rhanbarth. Nid oes gan ysbytai Brenhinol Gwent a Nevill Hall Adrannau Frys llawn bellach ac erbyn hyn, mae ganddyn nhw Unedau Mân Anafiadau 24 awr ynghyd ag Ysbyty Ystrad Fawr.

Gyda'r tywydd oerach a thymor yr ŵyl yn achosi chwympiadau, anafiadau a damweiniau yn aml o ganlyniad i alcohol, ynghyd â lledaeniad feirysau'r gaeaf a ffliw, gall y nifer uwch o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth yn ystod misoedd y gaeaf arwain at amseroedd aros hirach, ysbytai fwy llawn a phwysau pellach ar wasanaethau gofal iechyd ardraws system y GIG.

Trwy ddewis y gwasanaethau iechyd priodol, dim ond defnyddio 999 neu'r Adran Frys mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, a chadw at ganllawiau Covid-19, gall y cyhoedd helpu i amddiffyn y GIG.

Dywedodd Dr Alastair Richards, Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Frys yn y Bwrdd Iechyd: “Mae'r neges yn glir - ffoniwch 999 neu ewch i'r Faenor os ydych chi'n credu gallai'ch bywyd fod mewn perygl, neu ymwelwch â'n Unedau Mân Anafiadau yng Nghasnewydd, y Fenni, Ystrad Mynach a Glyn Ebwy os oes gennych anaf nad yw'n peryglu bywyd fel clwyf, ysigiad, datgymaliad neu asgwrn wedi torri. Gall eich Meddygfa neu Fferyllfa leol helpu gyda salwch llai difrifol.

“Gallwch ein helpu trwy ystyried dewisiadau amgen i’r Adran Frys a thrwy ffonio 111 pan nad ydych yn siŵr ble i fynd am ofal iechyd brys, yn ogystal â derbyn eich brechiad Covid-19 a Ffliw pan wahoddir chi a gwisgo orchudd gwyneb yn ôl yr angen, fel y gallwn atal lledaeniad Covid-19 a salwch anadlol eraill yn ein cymunedau ac amddiffyn y cleifion bregus yn ein hysbytai.

“Mae ein staff wedi gweithio’n ddiflino dros y 18 mis diwethaf i ddarparu’r gofal gorau posibl yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Gyda'r gaeaf yn agosáu'n gyflym, byddwn yn wynebu'r cyfnod gaeaf prysuraf a gawsom erioed, ac felly mae angen i'r cyhoedd ein helpu ni i helpu eu hunain."

Cyn y Gaeaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cychwyn ar ymgyrch wybodaeth ac ymgysylltu bellach i helpu pobl leol i ddeall y newidiadau sydd wedi digwydd i wasanaethau iechyd yn yr ardal a'u helpu i wneud y dewisiadau gofal cywir. Bydd manylion pellach yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach y mis hwn, ond yn y cyfamser, ewch i bipab.gig.cymru/dyfodol-clinigol i gael mwy o wybodaeth a chyngor defnyddiol.