Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwneud apêl Nadolig i drigolion Gwent

Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020

Oherwydd cynnydd 'pryderus' mewn achosion COVID-19 yn ardal Gwent, mae'r Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu llythyr agored at drigolion Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae'r llythyr yn gofyn i breswylwyr ddilyn y cyfyngiadau lefel 4 newydd a lleihau nifer y bobl y maen nhw'n eu cwrdd dros yr ŵyl i helpu i arafu lledaeniad y firws.

Eglura Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Judith Paget, “Roeddem am wneud yr apêl frys hon i breswylwyr, oherwydd gallwn achub bywydau os ydym i gyd yn gweithredu nawr. Bellach, mae gennym fwy o bobl â COVID-19 yn ein hysbytai nag oedd gennym ar bwynt gwethaf y don gyntaf. Rydym yn disgwyl i hyn waethygu dros yr wythnosau nesaf. Mae ein staff gweithgar wedi blino'n llwyr ac yn ofidus gan yr achosion difrifol o COVID-19 y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, rydyn ni nawr angen eich help chi ar frys."

Gofynnir i'r gymuned leol “aros gartref a chwrdd â chyn lleied o bobl â phosib”, i ymarfer 'Dwylo - Wyneb - Pellter' bob dydd, i gadw llygad am symptomau, i gael prawf ar unwaith a hunan-ynysu os bydd angen atal y firws rhag lledaenu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus a Phartneriaethau Strategol, Mererid Bowley: “Mae COVID-19 yn lledaenu’n gyflym iawn yn ein cymunedau, rydym yn deall bod llawer o bobl wir eisiau bod gyda ffrindiau a theulu dros gyfnod yr ŵyl, ac mae’r cyhoeddiad diweddar o gyfyngiadau Lefel 4 yn golygu y bydd angen i lawer newid eu cynlluniau. Fodd bynnag, mae cymysgu ag eraill, yn enwedig y tu mewn, yn cynyddu'r siawns o ddal a lledaenu'r firws hwn a all arwain at ganlyniadau difrifol i rai pobl. Byddwn yn gofyn i bawb ddathlu'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd mewn gwahanol ffyrdd eleni. Gall eich gweithredoedd achub bywydau dros yr wythnosau nesaf.

Gweler copi o'r llythyr.