Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Ymgyrch Ymwybyddiaeth Sepsis hanfodol ym mis Ebrill hwn, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU a Corinne Cope, mam a gollodd ei mab naw oed Dylan yn drasig i sepsis.
Mae sepsis yn argyfwng sy'n peryglu bywyd. Mae'n digwydd pan fydd eich system imiwnedd yn gorymateb i haint ac yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau eich corff. Gall ei ganfod yn gynnar a rhoi triniaeth feddygol gyflym achub bywydau. Nod yr ymgyrch hon yw addysgu'r cyhoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gofalwyr am arwyddion rhybuddio sepsis a phwysigrwydd gweithredu'n gyflym.
Pwysleisiodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, bwysigrwydd yr ymgyrch, gan ddweud:
Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn amcangyfrif bod 5 o bobl yn marw bob awr yn y DU o sepsis. “Mae Sepsis yn argyfwng meddygol sydd angen triniaeth frys. Rydym yn gobeithio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl gyda'n hymgyrch Ymwybyddiaeth Sepsis. Rydym yn falch o gydweithio ag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU a gyda Corinne Cope ar yr ymdrech allweddol hon i addysgu a grymuso pobl i adnabod sepsis a gweithredu'n gyflym, a hoffem fynegi ein diolch am eu cymorth a'u cefnogaeth."
Rhannodd Corinne Cope, sydd wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth yn dilyn marwolaeth drasig ei mab Dylan:
“Ni ddylai unrhyw riant brofi’r poen creulon sy’n deillio o golli plentyn i farwolaeth a allai fod wedi’i hatal. Bydd yr ymgyrch hon yn helpu pawb, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd, i ddod yn fwy 'sepsis savvy'. Mae cael gwybodaeth briodol yn hanfodol, oherwydd gyda sepsis, mae pob munud yn cyfrif. Rwy'n falch o weithio ochr yn ochr â BIPAB ac Ymddiriedolaeth Sepsis y DU i atgyfnerthu'r neges hanfodol hon i bawb."
Mae'r ymgyrch yn cael ei llunio mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. Dywedodd Terence Canning, Pennaeth Cymunedau, Ymddiriedolaeth Sepsis y DU:
“Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn croesawu ymgyrch sepsis BIPAB ac yn hynod falch ein bod yn gweithio gyda'r tîm ar y prosiect pwysig iawn hwn. Mae sepsis yn gyflwr sy'n ddibynnol ar amser ac sy'n hawlio llawer o fywydau yng Nghymru bob blwyddyn, yn union fel bywyd Dylan Cope, a oedd yn 9 oed. Mae'n hanfodol bod yr arwyddion a'r symptomau’n hysbys ac yn cael eu hystyried ar unwaith fel y gall unrhyw driniaeth angenrheidiol ddechrau cyn gynted â phosibl. Drwy’r ymgyrch hon rydym am roi’r siawns orau i bob claf gael y canlyniad gorau a’r allwedd i hyn yw addysgu’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau bod y reddf, y wybodaeth a’r hyder ganddynt i ofyn, ‘a allai fod yn sepsis?’ Dyma'r cwestiwn symlaf ond gallai achub bywyd.”
Fel rhan o'r ymgyrch, bydd y Bwrdd Iechyd yn dosbarthu deunyddiau addysgol ac yn rhannu straeon bywyd go iawn er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd adnabod symptomau sepsis yn gynnar.
Mae yna lawer o symptomau posibl, a gallant fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill, gan gynnwys y ffliw neu haint ar y frest.
Efallai bod sepsis ar fabanod a phlant ifanc os:
Efallai bod sepsis ar blentyn dan 5 oed os:
Mae symptomau mewn oedolion neu blant hŷn yn cynnwys:
Lleferydd aneglur neu ddryswch
Cryndod eithafol neu boen yn y cyhyrau
Pasio dim wrin (mewn diwrnod)
Diffyg anadl difrifol
Teimlo eich bod chi am farw
Croen brith neu liw anarferol
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi neu rhywun yr ydych chi'n gofalu amdanynt symptomau sepsis, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Gofynnwch, “A allai fod yn sepsis?”