Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn Ennill Gwobr Genedlaethol CIPR am Ymgyrch Balchder LHDTCRhA+

Mae ymgyrch “Mae Eich GIG yn Llawn Balchder” Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael ei hanrhydeddu gyda gwobr genedlaethol yng Ngwobrau mawreddog CIPR Cymru, sy’n dathlu rhagoriaeth mewn cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ledled Cymru.

Mae’r ymgyrch #MaeEichGIGynLlawnBalchder yn ddathliad pwerus o gynghreiriaeth, cynhwysiant a gwelededd. Mae’r ymgyrch yn dangos ymrwymiad diwyro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gefnogi staff, cleifion a chymunedau LHDTCRhA+.

Dywedodd Scott Wilson-Evans a Dr Elle Maybury, Cadeiryddion Rhwydwaith Staff LHDTCRhA+ y Bwrdd Iechyd:
“Rydym yn hynod falch bod ‘Mae Eich GIG yn Llawn Balchder’ wedi derbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon. Mae’r ymgyrch yn adlewyrchu gwir ysbryd ein Bwrdd Iechyd – un sy’n seiliedig ar garedigrwydd, parch a chynhwysiant. Mae gweld dros 1,200 o gydweithwyr yn llofnodi ein haddewid yn dangos bod cynghreiriaeth yn fwy na geiriau; mae’n weithred. Mae’r wobr hon yn perthyn i bawb sy’n helpu i wneud ein GIG yn lle ble y gall pawb berthyn, oherwydd mae cynhwysiant yn hanfodol ym mhob dim a wnawn wrth ddarparu’r gofal gorau i bobl Gwent yn ogystal ag i’n  staff.”

Mae’r ymgyrch drwy’r flwyddyn wedi cyflwyno cyfres o weithgareddau ac adnoddau addysgol i staff a’r cyhoedd, gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth, dathlu amrywiaeth, a chryfhau cefnogaeth i unigolion LHDTCRhA+ mewn lleoliadau gofal iechyd.