Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn isgyfeirio o statws Parhad Busnes

Dydd Iau 31 Mawrth 2022

Yn dilyn ein cyhoeddiad ar nos Fawrth, yr ydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach wedi isgyfeirio o statws 'parhad busnes'.

Mae'r gwelliant hwn yn ganlyniad i waith caled ein staff a'n partneriaid, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae gweithredoedd trigolion ardraws Gwent hefyd wedi ein helpu i isgyfeirio a hoffem ddiolch i bawb am rannu a dilyn y cyngor a gyhoeddwyd gennym ar Ddydd Mawrth.

Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau'n parhau i fod yn brysur ofnadwy a hoffem atgoffa pobl o hyd i'n helpu drwy ddewis y gwasanaeth iechyd priodol pan fyddant yn sâl neu wedi'u hanafu.

I ddysgu mwy am ein model o ofal iechyd y GIG yng Ngwent, ewch i: bipab.gig.cymru/dyfodol-clinigol/gofalu-amdanoch-chi-ach-dyfodol

Diolch am eich cefnogaeth a'ch amynedd parhaus.