Heddiw, ar Ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026, rydym yn falch o lansio'n swyddogol y Gwerthoedd ac Ymddygiadau newydd ar gyfer ein sefydliad, sy'n llunio sut rydym yn gweithio a sut rydym yn gofalu am ein gilydd, ein cleifion a'n cymunedau.
Mae ein gwerthoedd yn ein helpu i adeiladu diwylliant o garedigrwydd, gonestrwydd a pharch - i'n gilydd a'r rhai rydyn ni'n eu gwasanaethu. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gwneud yr hyn sy'n iawn i'n cleifion, ein cydweithwyr, a'n cymunedau.
Caredigrwydd - Mae caredigrwydd wrth wraidd sut rydym yn gofalu am ein cleifion, ein gilydd a ni ein hunain. Mae'n golygu dangos empathi a thrugaredd a rhoi anghenion a phrofiadau ein hunain ac eraill wrth wraidd popeth a wnawn.
Gonestrwydd - Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd, tegwch a thryloywder - gan wneud y peth iawn, cymryd cyfrifoldeb ac ennill ymddiriedaeth eraill. Rydym yn dal ein hunain a'n gilydd yn gyfrifol am ein gweithredoedd a'n penderfyniadau.
Parch - Rydym yn trin pawb ag urddas a thegwch, gan ddathlu amrywiaeth a chreu diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi.
Dywedodd Sarah Simmonds, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol:
"Nid oedd gwerthoedd ein sefydliad wedi cael eu diweddaru ers sawl flwyddyn. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni addasu, datblygu a thyfu yn unol â'n hamgylchedd, ein poblogaeth a'n cyd-destun sy'n esblygu ac yn teimlo bod datblygiad ein strategaeth hirdymor 'Gwent 2035' yn gyfle delfrydol i adolygu'r hyn sy'n bwysig i ni. Mae ein gwerthoedd yn llunio sut rydym yn gofalu a sut rydym yn gweithio. Maent yn ein helpu i adeiladu diwylliant o garedigrwydd, gonestrwydd a pharch - i'n gilydd a'r rhai rydym yn eu gwasanaethu."
"Hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr a rannodd eu hadborth, eu mewnwelediadau a'u syniadau yn ystod y cyfnodau datblygu. Mae eich lleisiau wedi helpu i sicrhau mai'r ymrwymiadau hyn yw'r hyn sy'n wirioneddol bwysig."
"Cadwch lygad am ddigwyddiadau ymgysylltu sy'n dod yn fuan i rannu ein Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau."
Dysgwch fwy am ein Gwerthoedd ac Ymddygiadau: Gwerthoedd ac Ymddygiadau Ein Bwrdd Iechyd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan