Fel rhan o fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron , trodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn binc ar Ddydd Gwener 22 Hydref ar gyfer y Diwrnod Troi'n Binc genedlaethol.
Ynghyd â'r ymgyrch genedlaethol, cymerodd staff y Bwrdd Iechyd ran yn ymgyrch Troi BIPAB yn Binc i godi arian mawr ei angen ar gyfer Canolfan y Fron newydd Ysbyty Ystrad Fawr, a fydd yn agor yn 2022.
Cymerodd staff ar draws y Bwrdd Iechyd ran yn yr ymgyrch trwy wisgo pinc, rhoi addurniadau pinc o gwmpas eu safleoedd gwaith neu hyd yn oed trwy gynnal partïon te pinc!
Aeth Vicky, aelod staff, (yn y llun isod ) un cam ymhellach a chymryd rhan mewn toriad gwallt noddedig i godi arian ychwanegol ar gyfer y ganolfan. Da iawn Vicky, rwyt ti'n ysbrydoliaeth!
Diolch i'r holl staff a helpon ni i droi'r Bwrdd Iechyd yn binc er budd achos mawr ei angen.
Os hoffech chi gyfrannu at Ganolfan y Fron newydd yn Hysbyty Ystrad Fawr, gellir rhoi trwy dudalen Just Giving y ganolfan.
Yn y llun isod: Staff ar draws y Bwrdd Iechyd yn cymryd rhan yn niwrnod Troi BIPAB yn Binc