Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn ddiogel yn y Tywydd Poeth

Yn y tywydd poeth hwn, gofalwch amdanoch chi eich hun ac eraill. Gall y rhan fwyaf ohonom fwynhau'r tywydd poeth yn ddiogel, ond cadwch lygad am y rhai sy'n fwy agored i niwed yn ystod y tywydd poeth.

Rydym eisoes yn gweld pobl yn mynychu Ysbyty Athrofaol Y Faenor sy'n wael iawn oherwydd effeithiau'r tywydd poeth.

Y prif risgiau sy'n gysylltiedig â thywydd poeth yw:

• peidio ag yfed digon o ddŵr (dadhydradu)

• gorboethi, sy'n gallu gwaethygu symptomau i bobl sydd eisoes yn cael problemau gyda'u calon neu yn anadlu

• gorludded gwres a thrawiad gwres

• llosg haul

Gall tywydd poeth effeithio ar unrhyw un, ond y bobl fwyaf agored i niwed yw pobl hŷn (yn enwedig y rhai dros 75 oed) a phlant ifanc. Meddyliwch am:

• y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn cartref gofal

• pobl sydd â salwch difrifol neu hirdymor – gan gynnwys afiechyd y galon neu'r ysgyfaint, diabetes, clefyd yr arennau, clefyd Parkinson neu rai cyflyrau iechyd meddwl

• y rheini a allai ei chael hi'n anodd cadw'n oer – babanod a phlant ifanc iawn, y rheini sy’n gaeth i’w gwelïau, y rheini sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, neu’r rheini sydd â chlefyd Alzheimer

• pobl sy'n treulio llawer o amser y tu allan neu mewn mannau poeth – y rheini sy'n byw mewn fflat ar y llawr uchaf, y digartref neu'r rhai y mae eu swyddi y tu allan