Byw'n Dda gyda Diabetes Math 1 - Torri'r Stigma
Gan Donna Price, Dietegydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Wrth i Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Diabetes agosáu, roeddwn i’n awyddus i gymryd eiliad neu ddwy er mwyn rhannu ychydig o fy stori fy hun, nid fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ond fel rhywun sydd wedi byw gyda diabetes Math 1 ers 33 mlynedd.
Ac rwy'n dewis y geiriau hynny'n ofalus: Dydw i ddim yn "dioddef o ddiabetes". Rwy'n byw gydag ef. Mae'n rhan o bwy ydw i, yn rhywbeth yr wyf wedi’i dderbyn amser maith yn ôl. A thrwy dderbyn, daw heddwch.
Yn anffodus, mae diabetes yn dal i gael ei gamddeall ar raddfa eang, ac mae stigma yn rhywbeth y mae llawer ohonom sydd â'r cyflwr yn parhau i'w wynebu, stigma sydd yn aml yn deillio, yn syml, o ddiffyg ymwybyddiaeth. Felly, fe hoffwn helpu i “chwalu ychydig o swigod.”
Myth 1: Diabetes Math 1 yw'r 'math drwg'
Nid oes y fath beth a math "da" na math "drwg" o ddiabetes. Nid yw defnyddio’r math yna o iaith yn ddefnyddiol, ac a dweud y gwir, mae’n niweidiol. Nid yw diabetes math 1 yn cael ei achosi gan ffactorau ffordd o fyw allanol, mae'n gyflwr awto-imiwn lle mae'r corff yn rhoi'r gorau i gynhyrchu inswlin. Ni allai unrhyw faint o siwgr na salad fod wedi newid hynny.
Myth 2: Ni ddylai pobl â diabetes fwyta rhai bwydydd
Un o'r sylwadau mwyaf cyffredin a rhwystredig y mae pobl sydd â diabetes yn eu clywed yw, “A ddylech chi fod yn bwyta hyn?”
Credwch fi, mae pobl sy'n byw gyda diabetes fel arfer yn llawer mwy ymwybodol o sut mae bwyd yn effeithio ar lefelau glwcos eu gwaed nag unrhyw un o'u cwmpas. I mi, mae clywed y math yna o sylw yn gwneud i mi fod eisiau bwyta hyd yn oed mwy, er mwyn profi pwynt!
Technoleg a hyder
Mae rheoli diabetes math 1 wedi datblygu’n anhygoel yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer ohonom bellach yn defnyddio synwyryddion monitro glwcos parhaus a phympiau inswlin - technoleg sy'n ein galluogi i reoli ein cyflwr yn llawer mwy effeithiol nag erioed o'r blaen.
Pan ystyriais wisgo synhwyrydd glwcos am y tro cyntaf, roeddwn i ychydig yn betrus. Roedd y syniad o gael rhywbeth gweladwy ar fy nghorff yn gwneud i mi boeni am sut y gallai eraill ymateb. A fyddai pobl yn syllu? A fyddai rhywun yn gofyn i mi amdano’n gyson?
Yn y diwedd, roedd y manteision o ran y rheolaeth a fyddai gennyf dros fy nglwcos yn drech na'm pryderon. A nawr, gan amlaf, dw i'n anghofio fy mod i hyd yn oed yn ei wisgo - nes y bydd rhywun yn fy stopio i ofyn, “Beth yw hwnna ar dy fraich di?”
Rydw i wedi dysgu cymryd yr eiliadau hynny fel cyfleoedd i addysgu a chodi ymwybyddiaeth. Ond rwy'n gwybod, i rai, y gall y cwestiynau hynny deimlo'n fusneslud neu'n anghyfforddus. Felly os gwelwch chi rywun yn gwisgo dyfais fel synhwyrydd neu bwmp - peidiwch â syllu na gofyn. Dydych chi byth yn gwybod faint o ddewrder oedd ei angen arnyn nhw i'w wisgo.
Fy Sylwadau Clo
Gall byw gyda diabetes Math 1 fod yn heriol, yn bendant - ond nid yw'n diffinio pwy ydw i. Dim ond un rhan ohonof i ydyw. Fy ngobaith mwyaf ar gyfer y Diwrnod Ymwybyddiaeth Diabetes hwn yw y byddwn ni i gyd yn cymryd eiliad i herio'r stereoteipiau, dysgu ychydig mwy, a dangos dealltwriaeth yn lle barnu.
Oherwydd pan fyddwn yn troi stigma yn empathi, gall pawb sy'n byw gyda diabetes fyw ychydig yn fwy rhydd - ac mae hynny'n rhywbeth sy'n werth ei ddathlu.