Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Ddiogel yn y Tywydd Poeth

Yn y tywydd poeth hwn, gofalwch amdanoch chi eich hun ac eraill.

Gall tywydd poeth effeithio ar unrhyw un, ond y bobl fwyaf agored i niwed yw pobl hŷn (yn enwedig y rhai dros 75 oed) a phlant ifanc. Meddyliwch am:

  • y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn cartref gofal
  • pobl sydd â salwch difrifol neu hirdymor – gan gynnwys afiechyd y galon neu'r ysgyfaint, diabetes, clefyd yr arennau, clefyd Parkinson neu rai cyflyrau iechyd meddwl
  • y rheini a allai ei chael hi'n anodd cadw'n oer – babanod a phlant ifanc iawn, y rheini sy’n gaeth i’w gwelïau, y rheini sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, neu’r rheini sydd â chlefyd Alzheimer
  • pobl sy'n treulio llawer o amser y tu allan neu mewn mannau poeth – y rheini sy'n byw mewn fflat ar y llawr uchaf, y digartref neu'r rhai y mae eu swyddi y tu allan

Y prif risgiau sy'n gysylltiedig â thywydd poeth yw:

  • peidio ag yfed digon o ddŵr (dadhydradu)
  • gorboethi, sy'n gallu gwaethygu symptomau i bobl sydd eisoes yn cael problemau gyda'u calon neu yn anadlu
  • gorflinder gwres a thrawiad gwres
  • llosg haul

Gadewch i ni edrych mas am ffrindiau, teulu a chymdogion yn ystod y gwres - gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr.
 

Gweler fwy o gyngor ar gadw'n ddiogel yn y tywydd poeth yma: