Wrth i ni ddisgwyl i'r tymheredd gyrraedd y 30au isel dros yr wythnos nesaf, dyma rai awgrymiadau ar gyfer cadw'n ddiogel yn yr haul.
- Ysytyrir eli haul gydag o leiaf SPF o 30 a sgôr UVA o 5 neu 6 seren yn gyffredinol yn safon dda o amddiffyniad rhag yr haul yn ogystal â chysgod a dillad.
- Rhowch eli haul ymlaen o leiaf 15 munud cyn mynd allan a'i rhoi ymlaen bob dwy awr, yn enwedig yn ystod ymarfer corff neu nofio.
- Gwisgwch sbectol haul gyda sgôr UV400 a marc CE
- Gwisgwch het ymyl llydan sy'n gorchuddio'r pen, y clustiau a'r gwddf
- Arhoswch allan o'r haul yn ystod oriau fwyaf twym, sef 11yb - 3yp
- Eisteddwch yn y cysgod ac arhoswch allan o olau haul uniongyrchol
- Cymerwch ofal arbennig gyda phlant a'r henoed
- Cofiwch hydradu - mae angen i oedolion yfed tua 1.5-2 litr o hylif y dydd
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG.