Neidio i'r prif gynnwy

'Caffi Cyfathrebu' yn Helpu Defnyddwyr Gwasanaeth i Aros mewn Cysylltiad

Dydd Iau 3ydd Gorffennaf 2025

Mae ein Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol yn cynnal menter boblogaidd o'r enw'r Caffi Cyfathrebu, sy'n parhau i fynd o nerth i nerth.

Mae'r grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ar Microsoft Teams, gyda sesiwn dal i fyny fisol ychwanegol mewn caffi lleol. Mae croeso cynnes i ofalwyr ymuno, boed i sgwrsio â'i gilydd, cymryd seibiant, neu ymlacio. Mae llawer o gyfranogwyr wedi bod yn mynychu'n wythnosol ers dros ddwy flynedd, gan greu ymdeimlad cryf o gysylltiad a chymuned.

Mae fformat hyblyg y caffi, ar-lein ac wyneb yn wyneb, wedi ei wneud yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan ei helpu i ffynnu.

Mae croeso bob amser i aelodau newydd ac fe'u cefnogir gan ein tîm Therapi Iaith a Lleferydd, Cynorthwywyr, a Phartneriaid Cymheiriaid (unigolion sydd â phrofiad byw o newidiadau cyfathrebu). Mae'r grŵp yn helpu i feithrin hyder cyfathrebu wrth fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol mewn amgylchedd cynnes a chefnogol.

Cafodd y fenter ei chydnabod yn ddiweddar gyda gwobr am 'Gyd-gynhyrchu gyda phartneriaid defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd' gan Wobrau Coleg Brenhinol Therapi Iaith a Lleferydd - cyflawniad y mae'r tîm yn hynod falch ohono.

I ddysgu mwy am y Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol, gan gynnwys y caffi, ewch i'r Coleg Adferiad Niwro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gweler y daflen ar dudalen 10).