Neidio i'r prif gynnwy

Camau i Ddarganfod

Yn 2020, roedd Timau Ymyrraeth Gynnar ledled Cymru a Lloegr i fod i hwylio rhan o arfordir y DU dros gyfnod o 6 wythnos- fel mordaith darganfod. Oherwydd Covid-19, mae'r fordaith wedi'i gohirio tan Awst 2021 OND mae'r timau wedi penderfynu bod angen her arnyn nhw o hyd- antur FAWR.

Felly trwy gydol mis Awst, Medi a Hydref bydd y timau'n ymgymryd â Her CAM ac yn cerdded arfordir y DU- Camau i Ddarganfod!

Mae morlin y DU yn 11,073 milltir, sy'n cyfateb i 23,384,064 o gamau.

Bydd y timau'n dyrannu targed i'w hunain e.e. nifer o gamau, neu ddarn o arfordir i gerdded. Cyfri nifer y camau yw'r nod, ond y pwrpas yw camu i'r her, gweithio gyda'n gilydd fel tîm, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, ymarferwyr, teuluoedd a gofalwyr, a chael hwyl!

Gall camau gael eu cronni gan ystod o weithgareddau: cerdded o amgylch y parc, i'r siopau neu o amgylch eich gardd fel Capten Tom. Gallwch chi chwarae pêl-droed, dawnsio, ymarfer corff, mynd i'r gampfa, dringo'ch grisiau, cerdded camlas, dringo bryn neu fynydd ac os ydych chi'n lwcus, cerdded arfordir. Dim ond cyfri'r camau sydd rhaid gwneud!

Rydym wedi sefydlu Tudalen Rhoi 'Virgin Money' i godi arian i gefnogi'r timau Ymyrraeth Gynnar yn eu hanturiaethau MAWR nesaf.

 

Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar

Mae'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio gyda phobl ifanc 14-35 sy'n profi pennod gyntaf o seicosis. Fel rhan o'u hadferiad, rydym yn cynnal rhaglen therapi antur i gefnogi adferiad o seicosis y bennod gyntaf. Mae'r Rhaglen Therapi Antur, yn fenter Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Cymru gyfan sy'n defnyddio adnoddau naturiol Cymru i gefnogi adferiad, lles corfforol a meddyliol; a galluogi datblygu sgiliau. Mae Therapi Antur yn mynd i'r afael â'r ffactorau sefyllfaol sy'n cadw pobl yn sownd yn eu sefyllfa a'u gwasanaethau bywyd trwy ddarparu amgylchedd hollol wahanol i ddatblygu hyder, sgiliau newydd, cymryd rhan mewn hybu iechyd corfforol a phersbectif ffres ar fywyd. Oherwydd effaith y Pandemig Coronafeirws, nid ydym wedi gallu cysylltu â'n gilydd y ffordd yr oeddem yn arfer. Felly, Camau at Ddarganfod yw ein her MAWR newydd. Mae'n rhywbeth y gallwn ei wneud yn ein hamgylchedd lleol gyda'n teulu, ffrindiau, a Gweithwyr Gofal Iechyd proffesiynol.


Bydd y CAMAU Ymyrraeth Gynnar yn cychwyn Awst 3ydd 2020 ac yn gorffen Hydref 29ain 2020, ac yn cael ei gefnogi gan Hafal, Gwella Cymru a'r Rhwydwaith Ymyrraeth Cynnar.