Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Newydd Ynghylch Profion Covid-19, Hunan-ynysu a Pas Covid y GIG

Dydd Llun 11 Hydref 2021

O Ddydd Llun 11 Hydref, mae’n rhaid i chi ddefnyddio Pas COVID y GIG i ddangos eich bod wedi’ch brechu’n llawn neu wedi cael prawf negatif cyn mynychu digwyddiadau mawr, clybiau nos a lleoliadau tebyg eraill. Gweler y wybodaeth isod i ganfod sut i gael mynediad at eich Pas COVID y GIG.

Sut i gael eich Pas COVID y GIG:  https://llyw.cymru/cael-eich-pas-covid-y-gig

Defnyddio Pas COVID y GIG i fynychu safleoedd a digwyddiadau yng Nghymru: https://llyw.cymru/defnyddio-pas-covid-y-gig-i-fynd-i-ddigwyddiadau-mawr-chlybiau-nos

Defnyddio Pas COVID y GIG i deithio’n rhyngwladol: https://llyw.cymru/defnyddio-pas-covid-y-gig-i-deithion-rhyngwladol


Ar Ddydd Mawrth 5 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad gyda chanllawiau newydd ar brofi am COVID-19 ymysg plant a phobl ifanc a staff sy’n gweithio mewn colegau ac ysgolion arbennig. Mae’r newidiadau’n dod i rym yn ffurfiol ar Ddydd Llun 11 Hydref.

Crynodeb o'r newidiadau

  • Bydd disgyblion ysgol uwchradd/coleg sy’n byw gydag unigolyn sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael eu cynghori i ymgymryd â phrofion llif unffordd dyddiol am saith diwrnod (bob bore cyn mynychu’r ysgol/coleg). 
  • Mae hyn ar ben profion PCR ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8 (y drefn ar hyn o bryd) 
  • Bydd plant ysgol gynradd yn parhau i gael eu cynghori i gymryd prawf PCR ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8. 

Plant dan 5 oed

  • Ni fyddwn yn argymell i blant sy’n iau na 5 mlwydd oed gymryd profion COVID-19 mwyach os nad oes ganddynt symptomau. 
  • Os oes gan blant sy’n iau na 5 mlwydd oed symptomau, ni fyddem yn argymell profion fel mater o drefn - oni bai eu bod yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan feddyg neu os yw rhieni'n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er lles y plentyn. 

Ysgolion Arbennig

  • Bydd yn ofynnol i staff sydd wedi'u brechu ac yn gweithio mewn addysg arbennig sy'n cael eu nodi fel cyswllt (aelwyd neu fel arall), (yn amodol ar asesiad risg) gael prawf PCR negyddol cyn mynychu'r gwaith, ac yna ymgymryd â phrofion llif unffordd dyddiol wedi hynny am 10 diwrnod.

Dolenni Defnyddiol

 

Gweler y datganiad ysgrifenedig llawn gan Lywodraeth Cymru.