Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Ymweliadau Ysbytai Diweddaraf

Dydd Llun 30 Mai 2022

Rydym yn falch o allu llacio cyfyngiadau ymweld o 31 Mai 2022 ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, o ganlyniad i newidiadau i reolau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Noder; gall yna fod eithriadau yn y meysydd isod. Ymwelwyr i gysylltu'n uniongyrchol â'r wardiau isod:

  • Plant
  • Mamolaeth
  • Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Canllawiau Ymweld Cyffredinol

  • Bydd Ymweliadau Cyffredinol rhwng yr oriau 8:00yb–8:00yp am hyd at awr.
  • Ni ddylai ymwelwyr ymweld os ydynt yn teimlo'n sâl ac yn profi symptomau generig sy'n gysylltiedig â Covid-19.
  • Gall pob claf gael uchafswm o ddau ymwelydd.
  • Ni fydd yn bosibl ymweld ag ardaloedd sydd wedi cau oherwydd achosion o haint, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol (fel yr amlinellir isod).
  • Nid oes angen Profion LFD bellach er mwyn ymweld ac nid oes rhaid i ymwelwyr ychwaith gwblhau gwybodaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
  • Anogir hylendid dwylo da wrth fynd i mewn i safleoedd ysbytai a wardiau, yn ogystal ag wrth ymadael.
  • Anogir ymwelwyr i wisgo gorchuddion wyneb, er nad yw'r rhain bellach yn orfodol.

Wardiau Achosion Covid

Gall ymweliadau â chleifion sydd â Covid-19 neu sy’n hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd cyswllt â Covid-19 ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol, fel y cytunwyd â staff y ward.

  • Rhaid i ymwelwyr fod yn ymwybodol o risgiau trosglwyddo Covid a chael gwybod am fesurau rheoli heintiau sydd ar waith, gan gynnwys defnyddio unrhyw PPE sydd ei angen yn ystod eu hymweliad.
  • Gall cleifion sydd ar ddiwedd eu hoes sy’n cael diagnosis o Covid dderbyn ymwelwyr yn ystod oriau olaf eu bywyd, os gofynnir am ganiatâd ymlaen llaw gan staff y ward.
  • Cydnabyddir bod ymwelwyr o’r un cartref â chlaf Covid-bositif yn aml yn symptomatig hefyd. Mewn sefyllfaoedd diwedd oes, bydd yn ofynnol i ymwelwyr o'r un cartref wisgo gorchudd wyneb wrth gyrraedd safle'r ysbyty. Rhaid i ymwelwyr fynd yn syth i'r ward a pheidio ag ymweld â chleifion neu fannau eraill yn ystod yr amser hwn.
  • Dylid hysbysu ymwelwyr â chyflyrau iechyd sylfaenol, neu sydd wedi gwarchod yn flaenorol, am y risgiau iddynt hwy eu hunain o ymweld.

Cleifion Allanol

Gall cleifion sy'n mynd i un o'n hysbytai ar gyfer apwyntiad claf allanol ddod gyda pherson arall.


Ymweld ag Adran Achosion Brys neu Adran Asesu

Mae’n bosibl y bydd un person yn dod gyda chi i'n Hadran Achosion Brys neu Unedau Asesu, ond ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i’r person sy’n dod gyda chi i aros yn rhywle arall os oes cyfyngiadau o ran gwagle oherwydd y galw.


Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod yr hyn y gwyddom sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn gyda'r Cyfyngiadau Ymweld. Mae pob penderfyniad wedi’i wneud er lles gorau’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt, y bobl sy’n gweithio yn ein cyfleusterau ac yn ymweld â nhw, a’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.

 

Ein blaenoriaeth yw cadw pawb mor ddiogel â phosibl