Dydd Mercher 6 Ebrill 2022
Rydym yn falch o allu lleihau cyfyngiadau ymweld ymhellach o 7 Ebrill 2022 ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Rydym yn parhau i fod yn ofalus oherwydd nifer yr achosion o Covid sy'n cylchredu yn y Gymuned, ond hefyd nifer y cleifion sydd gennym yn ein hysbytai sydd wedi profi'n bositif am Covid-19.
Sylwer; gall fod eithriadau yn y meysydd isod. Dylir ymwelwyr gysylltu â wardiau, yn benodol y canlynol:
- Plant
- Mamolaeth
- Cleifion ag anableddau dysgu neu nam gwybyddol
- Gofalwyr dynodedig
- Cleifion na allant wneud penderfyniadau drostynt eu hunain
Bydd disgwyl i bob ymwelydd:
- Cynnal prawf llif unffordd cyn ymweld, (ar gael i'r cyhoedd tan fis Mehefin 2022) gyda chanlyniad negyddol (rhaid i ymwelwyr fod yn rhydd o symptomau Covid-19). Rhaid nad ydynt wedi profi’n bositif am Covid-19 nac wedi cael cysylltiad â rhywun sydd wedi cael yr haint yn ystod y 10 diwrnod diwethaf.
- Gwisgo orchudd wyneb (oni bai eich bod wedi'i eithrio'n feddygol) bob amser pan fyddwch ar safle'r ysbyty.
- Gwisgo Offer Diogelu Personol (PPE) priodol, fel y bo'n berthnasol, wrth ddod i mewn i'r Ward yn unol â chyfarwyddyd y staff.
- Mynychu safle'r ysbyty a mynd yn syth i'r Ward a gadael y safle yn syth yn dilyn yr ymweliad.
- Glanhau/diheintio dwylo wrth fynd i mewn ac allan o'r ysbyty a'r ward.
- Nid yw cyfleusterau bwytai ar agor i ymwelwyr
Canllawiau ymweld cyffredinol:
- Bydd yr ymweliad rhwng 8:00yb–8:00yp am hyd at awr.
- Gall pob claf gael uchafswm o un ymwelydd sy’n gyswllt teuluol agos neu rywun sy’n bwysig i’r claf.
- Rhaid trefnu ymweliadau ymlaen llaw gyda staff y ward. Cyrhaeddwch mewn pryd ac nid yn gynnar.
- Bydd ymwelwyr yn llenwi holiadur sgrinio cyn mynediad i'r Ward ac yn cwblhau'r cod QR neu'r llyfr ymwelwyr wrth gyrraedd.
- Ni fydd yn bosibl ymweld â mannau sydd ar gau oherwydd achosion o haint, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol (a gytunwyd gan staff y ward).
- Ni fydd plant dan 11 oed yn cael ymweld oni bai bod yr amgylchiadau’n eithriadol.
Cwestiynau Cyffredin
Rydw i ar Ward Llawdriniaeth Ddewisol, a allaf gael ymwelwyr o hyd?
Yn ogystal â'r mesurau uchod, yn ddelfrydol dylai ymwelwyr â chleifion y gofynnwyd iddynt ynysu cyn eu llawdriniaeth fod yn rhywun o'r un cartref. Rhaid iddynt wisgo Offer Amddiffynnol Personol (PPE) priodol yn unol â chyfarwyddyd tîm y ward. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y cleifion hyn yn cael eu hamddiffyn cymaint â phosibl rhag trosglwyddo coronafeirws cyn ac ar ôl llawdriniaeth.
Rydw i ar Wardiau Achosion Covid, a allaf gael ymwelydd?
Gall ymweliadau â chleifion sydd â Covid-19 neu sy’n hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd cyswllt â Covid-19 ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol, fel y cytunwyd â staff y ward.
- Rhaid i ymwelwyr fod yn ymwybodol o risgiau trosglwyddo COVID a chael gwybod am fesurau rheoli heintiau sydd ar waith, gan gynnwys defnyddio unrhyw PPE sydd ei angen yn ystod eu hymweliad.
- Mae'r pandemig wedi cydnabod bod ymwelwyr o'r un cartref yn aml yn symptomatig hefyd. Mewn sefyllfaoedd diwedd oes, gall y tîm Atal a Rheoli Heintiau (IP&C) gynghori ar sut y gall unigolion o'r fath ymweld yn ddiogel â chlaf sydd yng nghyfnod olaf eu bywyd.
- Gall cleifion sydd ar ddiwedd eu hoes sy’n cael diagnosis o Covid dderbyn ymwelwyr yn ystod oriau olaf eu bywyd, os gofynnir am ganiatâd ymlaen llaw gan staff y ward.
- Dylid hysbysu ymwelwyr â chyflyrau iechyd sylfaenol, neu a oedd yn gwarchod yn flaenorol, am y risgiau sylweddol iddynt hwy eu hunain o ymweld.
Rwy'n glaf allanol, a allaf gael ymwelydd?
Gall cleifion sy’n mynd i un o’n hysbytai ar gyfer apwyntiad claf allanol gael hyd at un person gyda nhw os oes angen.
Mae angen i mi fynd i'r Uned Mân Anafiadau neu'r Adran Achosion Brys - a all rhywun ddod gyda mi?
Gallwch ddod ag un person gyda chi. Ar adegau prysur, efallai y byddwn yn gofyn i’r person sy’n dod gyda chi aros yn rhywle arall os oes cyfyngiadau o ran lle.
Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Mae pob penderfyniad wedi’i wneud er lles gorau’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt, y bobl sy’n gweithio yn ein cyfleusterau ac yn ymweld â nhw, a’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae ein trefniadau ymweld ac apwyntiadau yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd.
Ein blaenoriaeth yw cadw pawb mor ddiogel â phosibl.