Mae dwy o'n Nyrsys Ardal ymroddedig, Paula Phillips a Karen Davies, wedi cael eu canmol fel arwyr ar ôl i'w gweithredoedd cyflym yn achub bywyd claf yn ystod tân mewn padell sglodion yn ei gartref.
A'r nos Fercher 12 Mehefin, cyrhaeddodd Paula a Karen i gartref Rhys Bevan, 89 oed, ym Mhontllanfraith i gynnal ymweliad meddygol arferol. Ond yr hyn a gawnodd oedd ymhell o fod yn arferol.
Roedd Mr Bevan, a oedd yn eistedd yn ei ystafell fyw gyda'i gi, yn gwbl anymwybodol bod tân wedi cychwyn yn y gegin. Er bod ei larymau mwg yn canu, roedd yn credu fod y sŵn yn dod o'r teledu.
Gan synhwyro perygl, galwodd Paula’r Gwasanaeth Tân ar unwaith tra bod Karen yn ddewr yn mynd i mewn i’r gegin llawn mwg. Heb unrhyw amser i’w golli, gorchuddiodd y badell sglodion oedd yn llosgi â thywel damp a’i chario allan i ddiogelwch - gan atal yr hyn a allai fod wedi bod yn dân tŷ dinistriol.
“Doedd dim amser i feddwl,” meddai Karen. “Roedd y gegin yn drwchus o fwg ac roedden ni’n gallu gweld y fflamau. Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i ni weithredu’n gyflym i gadw Mr Bevan yn ddiogel.”
Ychwanegodd Paula: “Rydym mor falch ein bod wedi cyrraedd pan wnaethon ni. Y peth pwysicaf yw bod Mr Bevan yn iawn. Dyna sy'n bwysig.”
Dywedodd merch Mr Bevan, Ceri-Anne Sharp, y gallai dewrder y nyrsys fod wedi achub bywyd ei thad. Dywedodd diffoddwyr tân wrth y teulu y gallai'r tân fod wedi lledu i weddill y tŷ o fewn ychydig funudau yn unig. Gadawyd y gegin wedi'i difrodi y tu hwnt i atgyweirio, a dinistriwyd y badell sglodion yn llwyr.
“Yn bendant, fyddwn ni ddim yn prynu un newydd i fy nhad,” meddai Ceri-Anne. “Rydyn ni wedi prynu ffrïwr aer iddo yn lle hynny, y mae e’n ei alw’n ‘sychwr gwallt’! Byddaf yn ddiolchgar am byth i Paula a Karen – roedd eu dewrder yn wych.”
Canmolodd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Jennifer Winslade, gamau gweithredu’r tîm: “Mae hwn yn enghraifft bwerus o’r rôl hanfodol y mae ein nyrsys ardal yn ei chwarae – nid yn unig yn darparu gofal a chefnogaeth yn y gymuned, ond yn ymateb gyda dewrder anhygoel mewn sefyllfaoedd brys. Gweithredodd Paula a Karen yn reddfol, yn dawel ac yn ddewr. Rydym yn hynod falch ohonynt.”
Rydym yn falch o allu dweud bod Mr Bevan bellach yn gwella'n dda - gyda'i gi annwyl a'i ffrïwr aer newydd gerllaw.
Diolch i chi, Paula a Karen, am fynd yn uwch ben a thu hwnt yn eich dyletswydd gofal.