Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan brechu torfol newydd yn agor ar hen safle siop Debenhams Casnewydd ddydd Llun 19 Rhagfyr

Bydd y ganolfan brechu torfol newydd yn agor ddydd Llun 19 Rhagfyr ar gyfer apwyntiadau wedi’u trefnu yn unig.

Sylwer: ni all y ganolfan hon gynnig apwyntiadau ‘galw i mewn’ ar hyn o bryd.

Enw’r ganolfan fydd:

Friars Walk Casnewydd, Canolfan Brechu Torfol

1 – 7 Canolfan Siopa Friars Walk

Sgwâr John Frost

Casnewydd

NP20 1DR

 

Os ydych i fod i gael brechiad yn y ganolfan newydd hon, byddwn yn cysylltu â chi ar y ffôn. Os cewch apwyntiad, cofiwch ei fynychu.

Bydd y ganolfan ar agor fel a ganlyn:

  • Dydd Llun 19 – Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 (9am-5pm) ar gyfer cleifion ag apwyntiadau’n unig (ni ellir galw i mewn am frechiad)
  • Bydd ar gau 24 Rhagfyr 2022 – 27 Rhagfyr 2022
  • Bydd yn ailagor Ddydd Mercher 28 – Dydd Gwener 30 Rhagfyr 2022 (9am-5p) ar gyfer cleifion ag apwyntiadau’n unig (ni ellir galw i mewn am frechiad)
  • Bydd ar gau ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr – Dydd Llun 2 Ionawr 2023
  • Bydd yn ailagor Ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023 – yr amseroedd i’w cadarnhau.

 

Ceir mannau parcio ym meysydd parcio Friars Walk a Ffordd y Brenin