Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Lles Dwyrain Casnewydd – cyfleuster newydd gwerth £27 miliwn wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru

Dydd Llun 27 Mehefin 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer adeiladu Canolfan Iechyd a Lles newydd yn ardal Dwyrain Casnewydd.

Arweiniodd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent ddatblygiad cynlluniau ar gyfer y ganolfan newydd, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydweithio â Chyngor Dinas Casnewydd, Cartrefi Dinas Casnewydd a sefydliadau partner eraill. Bydd y Ganolfan Iechyd a Lles newydd yn rhan o ganolbwynt cymunedol bywiog i drigolion Dwyrain Casnewydd.

Bydd y ganolfan gwerth £27.46 miliwn wedi'i lleoli yn Ringland a bydd yn gartref i ddau bractis Meddygon Teulu sy'n gweithio'n annibynnol; Practis Meddygol Ringland a cynigir, Meddygfa Parc ochr yn ochr â Deintyddfa Ringland.

Bydd yn dod ag ystod o wasanaethau i gleifion ynghyd mewn un lle, gan gynnwys Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Deintyddiaeth Gymunedol, Gwasanaethau Cymunedol, Gofal Cymdeithasol a Phartneriaid Trydydd Sector. Mae’r datblygiad hwn yn elfen sylfaenol o fodel Dyfodol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan helpu’r Bwrdd Iechyd i ddarparu ystod eang o wasanaethau yn nes at adref ar gyfer y gymuned leol.

Yn ogystal â gwasanaethau meddygol, bydd yr hwb cymunedol yn dod â phobl ynghyd i gefnogi llesiant, lleihau unigrwydd a hyrwyddo byw’n annibynnol, i gyd mewn amgylchedd croesawgar.

Dywedodd Glyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Ganolfan Iechyd a Lles newydd hon, sy’n enghraifft berffaith o’n huchelgeisiau ar gyfer trawsnewid darpariaeth gofal iechyd ar draws ardal y Bwrdd Iechyd.

“Mae ein rhaglen Dyfodol Clinigol barhaus yn ein hymrwymo i symud gofal yn nes at gartrefi pobl a bydd y ganolfan newydd hon yn ardal Dwyrain Casnewydd yn galluogi cleifion i gael mynediad i ystod eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan yr un to yng nghanol eu cymuned eu hunain.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’r ganolfan newydd yn argoeli i ddod â manteision sylweddol i bobl sy’n byw yn nwyrain y ddinas ac rwy’n falch iawn bod y cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid i ddod â gwasanaethau hanfodol ynghyd mewn un lle, yn agos at y gymuned.

“Byddwn yn annog trigolion i fanteisio ar y cyfle i ddarganfod mwy am y datblygiad yn y digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd gan mai nhw fydd y rhai fydd yn defnyddio’r ganolfan newydd.”

 

Dywedodd Ceri Doyle, Prif Weithredwr Cartrefi Dinas Casnewydd: “Rydym wrth ein bodd bod y cynlluniau ar gyfer canolfan Iechyd a Lles newydd yn Ringland wedi cael eu cymeradwyo. Bydd y ganolfan mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer y gymuned wrth i ni barhau i adfywio'r ardal, adeiladu 158 o gartrefi newydd ac adleoli canolfan siopa Ringland.

“Rydym yn edrych ymlaen at drawsnewid yr ardal ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol a bydd gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau gorau i gymuned Ringland.”

 

Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn falch o fuddsoddi yng Nghanolfan Iechyd a Lles Dwyrain Casnewydd sy’n cefnogi ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu 50 o hybiau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru. Drwy gynnig ystod mor eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn un lle, bydd y ganolfan hon yn helpu i ddarparu mwy o wasanaethau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, yn nes at adref.”

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Dinas Casnewydd, Cartrefi Dinas Casnewydd yn gweithio’n agos gyda thrigolion lleol wrth i’r datblygiad fynd rhagddo i geisio eu barn a darparu diweddariadau i’r gymuned.

Cynhelir dau sesiwn wybodaeth galw heibio i'r cyhoedd ar Ddydd Mawrth 19 Gorffennaf (Clwb Llafur Ringland, Ringland, 11am - 6pm) a Dydd Mercher 20 Gorffennaf (Canolfan Rascal Hope, Somerton, 12pm - 7pm) i roi cyfle i bobl ddarganfod mwy o wybodaeth am y datblygiad.

 

Gweler fwy o wybodaeth am y ganolfan.