Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn bwriadu adeiladu Canolfan Iechyd a Lles integredig newydd yn Nwyrain Casnewydd. Bydd y Ganolfan Iechyd a Lles newydd yn cymryd lle’r canolfannau iechyd cyfredol, meddygfeydd y Parc a Ringland, ac yn darparu gwasanaethau eraill fel deintyddfa gymunedol, nyrsys ardal ac ystafelloedd amlbwrpas/interim.
Darllenwch rifyn cyntaf ein cylchlythyr datblygu.