Neidio i'r prif gynnwy

Caplan Ysbyty yn Rhannu Stori Sepsis i Godi Ymwybyddiaeth

Dechreuodd gyda haint wrin. Teimlai Dean yn sâl, roedd ganddo dymheredd uchel, roedd yn crynu'n afreolus, ac roedd yn chwydu. Gan feddwl y byddai’n well ar ôl cysgu, aeth Dean i'r gwely. Erbyn y bore, daeth ei wraig o hyd iddo prin yn ymwybodol. 

Atgyfeiriwyd ef yn syth gan ei Feddyg Teulu i'r Adran Achosion Brys, ond nid yw Dean yn cofio'r rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw. Roedd ganddo dymheredd, roedd yn ddryslyd, ac wedi'i lethu gan ymdeimlad brawychus ei fod yn mynd i farw. 

Diolch i ymyrraeth feddygol gyflym, goroesodd Dean. 

Mae Dean, un o gaplaniaid ein hysbytai, yn rhannu ei stori mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o sepsis a gwella yn dilyn sepsis.

 

Gall adnabod sepsis fod yn anodd Roedd gan Dean symptomau rhybuddio nodweddiadol 

Os ydych yn amau ​​sepsis, gofynnwch: “A allai fod yn sepsis?”. Gallai gwybod yr arwyddion achub bywyd.