O ran adferiad, cartref yw'r lle gorau i chi.
Yn ystod eich amser yn yr ysbyty gyda ni, ein nod bob amser yw eich cael chi adref cyn gynted â phosibl. Mae mynd adref pan fydd eich triniaeth ysbyty wedi'i chwblhau a dychwelyd i'ch trefn arferol yn eich helpu i wella'n gyflymach na phe byddech chi'n aros yn yr ysbyty.
Gyda chefnogaeth gan staff a'ch perthnasau, mae yna ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i gyflymu eich adferiad a chyrraedd adref yn gynt, gan gynnwys paratoi ar gyfer eich rhyddhau cyn gynted ag y byddwch chi’n cael eich derbyn i'r ysbyty, a chadw mor actif â phosib tra yn yr ysbyty i osgoi datgyflyru cyhyrol.