Neidio i'r prif gynnwy

Cau Ffordd A464 Rhwng Brynmawr a Gilwern dros y Penwythnos

Dydd Llun 11 Hydref 2021

Sylwch y bydd yr A465 ar gau rhwng Brynmawr a Gilwern rhwng 20:30 ar Ddydd Gwener 15 Hydref a 06:00 ar Ddydd Llun 18 Hydref 2021.

Gellir gweld y llwybr dargyfeirio swyddogol yn http://www.a465.info/official-diversion. Byddem yn cynghori unrhyw un sy'n teithio i'n safleoedd Ysbyty neu Ganolfannau Brechu i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser teithio ychwanegol.

Bydd gwasanaeth bws mini yn cael ei ddarparu i gymryd lle'r Gwasanaeth Stagecoach 3 ar Ddydd Sadwrn. Bydd amserlen y bws mini yn gweithredu'n arferol, ond bydd llai o gapasiti eistedd. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, fe'ch cynghorir i wisgo gorchudd wyneb addas. Bydd hwn yn amod teithio ar y bws mini.