Neidio i'r prif gynnwy

Cau ffordd penwythnos A465 rhwng Brynmawr a Gilwern

Sylwch bydd yr A465 rhwng Brynmawr a Gilwern ar gau ar y dyddiadau canlynol: rhwng 10fed-13eg Gorffennaf, 13eg-17eg Gorffennaf (dros nos) a 24ain-27ain Gorffennaf.
 

Gweler y gwyriadau argymelledig o'r ddau ben.

Mae'n ofynnol cau'r ffordd dros y penwythnos i wneud gwaith na ellir ei gwblhau'n ddiogel tra bod y ffordd ar agor neu o dan reolaeth traffig. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cael gwared ar y gylchfan dros dro yn Saleyard, agor cyffordd Saleyard ynghyd â'r arhosfan bysiau tua'r dwyrain, adeiladu rhwystrau canolog a gwaith wynebu. Bydd gwaith arall hefyd yn cael ei wneud trwy gydol y prosiect i wneud y defnydd gorau o gau'r ffordd.

Bydd gwasanaeth bws mini yn cael ei ddarparu i gymryd lle'r Gwasanaeth Stagecoach 3 ar Ddydd Sadwrn. Bydd amserlen y bws mini yn gweithredu fel arfer, ond bydd llai o gapasiti eistedd. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, fe'ch cynghorir y dylid gwisgo gorchudd wyneb addas. Bydd hwn yn amod teithio ar y bws mini.
 
Mae cau ffyrdd dros nôs wedi'i drefnu ar yr A465 rhwng Gilwern a Brynmawr *tua'r Gorllewin yn unig * rhwng 20:30 a 06:00 y bore canlynol. Mae'r bwriad i gau ffyrdd dros nôs rhwng Dydd Llun 13eg Gorffennaf a Dydd Gwener 17eg Gorffennaf (5 noson).

Mae angen cau'r Lôn tua'r Gorllewin ar gyfer gwneud gwaith wyneb ar yr A465 rhwng Blackrock a Glanbaiden. Mae perfformio'r gweithiau hyn gyda'r nôs yn osgoi cau ymhellach yn ystod y dydd.

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith sŵn o'r gwaith hwn a dylent effeithio ar drigolion cyfagos am gyfnodau yn unig wrth i'r gwaith gael ei wneud yn pasio ar hyd yr A465.