Neidio i'r prif gynnwy

Clwb Rygbi'r Dreigiau yn dod â Llawenydd y Nadolig i Ysbyty Athrofaol y Faenor

Cafodd plant a theuluoedd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ddos cynnar o hud y Nadolig yr wythnos hon wrth i chwaraewyr Clwb Rygbi’r Dreigiau ymweld â Ward y Plant i ddosbarthu anrhegion, cwrdd â chleifion ifanc, a rhannu rhywfaint o lawenydd y Nadolig.

 

Rhoddodd yr ymweliad wên ar wynebau pawb ac roedd chwerthin, a chyffro di-ri wrth i’r chwaraewyr dreulio amser yn sgwrsio gyda phlant a rhannu anrhegion. Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd surprise arbennig i'r cefnogwr brwd, Andrei, a oedd wrth ei fodd pan dderbyniodd docynnau gêm yn bersonol gan y tîm.

 

Dywedodd Jared Rosser, un o chwaraewyr Clwb Rygbi’r Dreigiau a ddaeth i ymweld:

“Mae bob amser yn fraint cael dod i dreulio amser gyda'r plant yma. Mae gweld eu hwynebau’n goleuo yn ein hatgoffa beth sy’n bwysig yr adeg hon o’r flwyddyn mewn gwirionedd. Rydym yn ddiolchgar ein bod yn gallu dod ag ychydig o lawenydd, ac rydym yn gobeithio bod yr anrhegion a'r tocynnau gêm yn rhoi rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato.”

 

Mynegodd staff yr ysbyty pa mor ddiolchgar oedden nhw am garedigrwydd a haelioni’r tîm, ac am yr effaith gadarnhaol a gawsant ar gleifion a theuluoedd. Roeddent yn ddiolchgar hefyd am y danteithion a gawsant hwythau gan y chwaraewyr!

 

Mae ymweliad y Dreigiau wedi dod yn