Mae Comisiwn Bevan wedi cyhoeddi ei Gymrodyr Bevan newydd, 24 o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru.
Gyda'r cyhoeddiad hwn mae'n bleser gennym rannu bod Dr. Inderpal Singh yn Uwch Gymrawd ar gyfer y rhaglen ddiweddaraf. Ymunwch â ni i'w longyfarch ar ei Gymrodoriaeth.
Mae'r cymrodyr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu prosiectau sy'n gwella gofal cleifion, yn croesawu technoleg, ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’r rhaglen yn meithrin arweinyddiaeth a newid ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan bontio gwasanaethau clinigol a’r byd academaidd er mwyn ysgogi arloesedd.
Mwy am Dr. Singh
Mae Dr Inderpal Singh yn geriatregydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng Nghymru ac yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Arweiniol Rhaglen Hyfforddi (Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol) ac yn cydweithio ag AaGIC i wella profiad addysgol meddygon dan hyfforddiant tra’n gweithredu'r diwygiadau Ffurf Hyfforddiant.
Yn 2020, Penodwyd Dr Singh yn Arweinydd Clinigol Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Sefydlodd Fwrdd Datblygu a Sicrhau Ansawdd Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn (FLS) cenedlaethol i wella gofal osteoporosis ledled Cymru a lleihau'r risg bod cleifion yn torri esgyrn am yr eilwaith. At hyn, mae'n cadeirio Bwrdd Rhaglen Cwympiadau a Thorasgwrn Breuder (FFFAP) yng Nghymru.
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar addysg, cwympiadau cleifion mewnol, osteoporosis, a dementia. Mae wedi ysgrifennu mwy na 25 o bapurau ymchwil, adolygiadau, a phenodau llyfrau. Mae Dr. Singh wedi derbyn sawl gwobr fawreddog, gan gynnwys Gwobr GIG Cymru yn 2017, Gwobr Rhagoriaeth Addysgu gan Brifysgol Caerdydd yn 2019, a Gwobr Rhagoriaeth Glinigol yn 2021.
Mae Cymrodoriaeth Bevan Singh yn canolbwyntio ar werthuso’r Gwasanaeth Cyswllt Torasgwrn a chofnodi mesurau canlyniadau sy’n ymwneud â chleifion (PROM).